Datgelu cynlluniau £26.2m i adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu'r cynlluniau diweddaraf i adnewyddu adeilad yr Hen Goleg yn y dref.
Yr amcangyfrif yw y bydd yn costio £26.2m, a daw wrth i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei lansio ynglŷn â'r cynlluniau.
Cafodd cynlluniau manwl ar gyfer y prosiect eu datgelu mewn digwyddiad yn yr adeilad nos Fawrth.
Dywedodd y brifysgol y byddai'r cynlluniau yn "dod â bywyd newydd i'r Hen Goleg".
'Creu 40 o swyddi'
Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu amgueddfa fyddai'n adrodd hanes y brifysgol, gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd, canolfan wyddoniaeth, cyfleusterau cynadledda a gofod astudio i fyfyrwyr.
Byddai hen lyfrgell yr adeilad ar gael ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, a bydd y lloriau uchaf yn cynnig llety pedair seren 33 ystafell.
Fe fyddai 12 o unedau busnes, caffi-bistro, bar a stiwdios ar gyfer artistiaid hefyd yn rhan o'r datblygiad.
Mewn ychwanegiad at y cynlluniau gwreiddiol i drawsnewid yr Hen Goleg, mae'r penseiri hefyd wedi ymgorffori ym mhrosiect y ddau dŷ Sioraidd cyfagos sy'n eiddo i'r brifysgol.
Byddai atriwm chwe llawr o uchder yn cael ei greu uwchben a thu ôl i rif 1 a 2 y Rhodfa Newydd.
Yn ôl Prifysgol Aberystwyth, byddai'r adnewyddiad yn "creu hyd at 40 o swyddi newydd a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn".
Y bwriad yw agor yr adeilad ar ei newydd wedd ym mlwyddyn academaidd 2022-2023, pan fydd y brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150.
'Dyfodol mwy cynaliadwy'
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae'r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru ac yn fan geni Prifysgol Cymru, ond mae angen inni ail-gyflunio ei bwrpas ar gyfer cenhedlaeth newydd.
"Bydd ein cynlluniau ailddatblygu a chodi arian yn arwain at greu cyfleusterau a chyfleoedd newydd i'r brifysgol ac i fyfyrwyr yn ogystal â bod yn brosiect adfywio o bwys i'r gymuned leol, a fydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos.
"Trwy roi bywyd newydd i'r Hen Goleg, byddwn hefyd yn diogelu rhan greiddiol o'n treftadaeth ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r adeilad rhestredig Gradd I hwn."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf y byddan nhw'n cyfrannu £900,000 tuag at adnewyddu rhan o adeilad yr Hen Goleg.
Daeth hynny wedi i'r brifysgol gyhoeddi'r llynedd y byddan nhw'n derbyn dros £10m o arian loteri er mwyn adnewyddu'r adeilad.
Bydd y cynlluniau'n cael eu harddangos yn yr Hen Goleg o 12 Rhagfyr nes 24 Ionawr 2019, a bydd cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei gyflwyno i Gyngor Ceredigion ar ôl hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017