Y Dreigiau'n diswyddo'u prif hyfforddwr Bernard Jackman
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dreigiau wedi diswyddo eu prif hyfforddwr Bernard Jackman yn dilyn dechreuad siomedig i'w tymor.
Cafodd Jackman ei benodi fel olynydd Kingsley Jones ym mis Mehefin 2017, ond gorffennodd y rhanbarth yn chweched allan o saith yn Adran B y Pro14 yn ei dymor cyntaf.
Dros yr haf eleni cafodd nifer o chwaraewyr uchel eu proffil eu harwyddo, gan gynnwys Ross Moriarty, Richard Hibbard ac Aaron Jarvis.
Ond maen nhw ar waelodion eu hadran yn y Pro14 unwaith eto eleni, a hefyd ond wedi ennill un o'u tair gêm hyd yn hyn yng Nghwpan Her Ewrop.
Mae Jackman yn gadael y Dreigiau gyda dros 18 mis yn weddill o'i gytundeb tair blynedd.
Dyw'r rhanbarth heb gyhoeddi eto pwy fydd olynydd y Gwyddel.