Cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl taro'i phen ar drên

  • Cyhoeddwyd
Bethan RoperFfynhonnell y llun, Cardiff School of Journalism/PA

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl taro ei phen wrth deithio ar drên.

Roedd Bethan Roper, 28, yn teithio yn ôl o Gaerfaddon i dde Cymru ar 1 Rhagfyr ar ôl bod mewn marchnad Nadolig gyda ffrindiau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 22:10, ond bu farw Miss Roper yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth y DU eu bod yn credu ei bod wedi pwyso ei phen allan drwy ffenestr ar y trên pan gafodd ei tharo.

"Mae'n gynnar eto yn ein hymchwiliad, ond mae'n ymddangos ar hyn o bryd fod y ddynes o bosib wedi bod yn pwyso allan o ffenest pan gafodd ei tharo ar ei phen," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Roedd Miss Roper, o Benarth, yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn ymgyrchydd dros hawliau ceiswyr lloches.