Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 4-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd Casnewydd yn herio Caerlŷr yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 yn erbyn Wrecsam yn Rodney Parade.
Roedd 4,000 yn bresennol i wylio'r ddau glwb o Gymru yn ailchwarae'r gêm yn ail rownd y gystadleuaeth yn dilyn gêm ddi-sgor yn y Cae Ras ar ddechrau'r mis.
Dim ond 12 munud i mewn i'r gêm fe dderbyniodd chwaraewr canol cae Wrecsam, Luke Young, gerdyn coch am dacl peryglus.
Pum munud ar ôl yr egwyl fe lwyddodd Padraig Amond i fanteisio ar groesiad Fraser Franks er mwyn penio'r Alltudion ar y blaen.
Roedd y fantais o gael dyn ychwanegol yn dod yn fwyfwy amlwg wrth i Gasnewydd reoli'r chwarae, ac ar ôl 59 munud fe ddyblwyd mantais y tîm cartref gan yr ymosodwr Jamile Matt.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Dreigiau pum munud yn ddiweddarach wrth i'r amddiffynnwr, Mark Carrington, daro'r bel i'w rwyd ei hun i selio'r fuddugoliaeth i Gasnewydd.
Dan Butler sgoriodd y bedwaredd i Gasnewydd wrth iddo grymanu'r bêl i gornel isaf y rhwyd yn ystod y cyfnod ar gyfer amser ychwanegol.
Bydd Casnewydd yn herio Caerlŷr yn y drydedd rownd ar ddydd Sul 6 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018