Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 0-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fe fydd yn rhaid i Wrecsam a Chasnewydd wynebu ei gilydd unwaith yn rhagor am le yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn gêm ddi-sgor ar y Cae Ras nos Sadwrn.

Wrecsam gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant dros y 90 munud, wrth iddyn nhw chwarae heb eu rheolwr Sam Ricketts ar yr ystlys ar ôl i'r clwb ofyn iddo gadw draw o'r gêm yn dilyn ansicrwydd am ei ddyfodol.

Casnewydd gafodd y cyfle cyntaf yn y gêm wedi 11 munud. Croesiad o'r asgell dde gan Padraig Amond ac fe aeth cyffyrddiad Jamille Matt o chwe llath heibio'r postyn.

Fe gafodd Wrecsam ddau gyfle ond fe hedfanodd dwy ergyd gan Bobby Grant ac yn ddiweddarach Jake Lawlor o du allan y cwrt cosbi ymhell dros y trawst.

Arbediad gwych

Daeth cyfle gorau'r hanner cyntaf naw munud cyn yr egwyl.

Chwarae da lawr yr asgell chwith gan Wrecsam a gyda Chasnewydd yn methu a chlirio'r bel o'r cwrt cosbi fe gafodd ergyd bwerus Grant ei harbed yn wych gan Joe Day yn y gôl i'r ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Wrecsam, Sam Ricketts yn absennol o'r gêm

Ar ddechrau'r ail hanner roedd tempo Wrecsam llawer yn uwch ac roedden nhw ar y droed flaen yn syth.

Wedi 53 munud fe gafodd ergyd Stuart Bevan dros y golwr ei chlirio'n wych oddi ar y llinell gan Mickey Demetriou.

Roedd Wrecsam yn mwynhau cyfnod o ymosod yn gyson wrth iddyn nhw orfodi amddiffyn Casnewydd yn ddyfnach i'w hanner eu hunain.

Daeth cyfle gorau'r gêm i Wrecsam ar ôl 68 munud. Roedd cefnogwyr y tîm cartref ar eu traed yn credu fod Bobby Grant wedi sgorio o wyth llath, ond fe darodd ei ergyd y rhwyd ochr.

Fe gymrodd hi 80 munud i Gasnewydd gael cyfle gwirioneddol i sgorio.

Taro'r trawst

Fe ddylai'r eilydd Antoine Semeneo wedi gwneud yn well gyda'i beniad o chwe llath aeth dros y trawst ar ôl croesiad gwych gan Sheehan.

Fe aeth Semeneo yn agos eto tri munud yn ddiweddarach gydag ergyd o 12 llath, ond fe lwyddodd Rob Lainton i arbed yn y gôl i Wrecsam.

Gyda thri munud yn weddill fe darodd ergyd Grant y trawst ond roedd yn camsefyll.

Gyda'r dyfarnwr yn penderfynu chwarae chwe munud o amser ychwanegol daeth Wrecsam eto gan fygwth gôl Casnewydd.

Daeth y gêm i ben gyda Wrecsam yn teimlo eu bod yn anlwcus i beidio â chipio lle yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr wrth i Gasnewydd fodloni o gael cyfle arall i gyrraedd y rownd nesaf ar eu tomen eu hunain.