Cwpan FA Lloegr: Gemau clybiau Cymru yn y drydedd rownd

  • Cyhoeddwyd
fa cupFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr gyda chlybiau Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr nesaf.

Fe fydd yn rhaid i Gasnewydd a Wrecsam ail chwarae yn yr ail rownd yn dilyn gêm ddi-sgor nos Sadwrn ar y Cae Ras.

Caerlŷr o Uwch Gynghrair Lloegr fydd yn teithio i faes enillydd y gêm honno.

Bydd Caerdydd yn teithio i Gillingham sydd yn Adran Un.

Abertawe oedd y tîm diwethaf allan o'r het ac fe fydden nhw'n teithio i wynebu Aston Villa sydd hefyd yn y Bencampwriaeth.

Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng 4-7 Ionawr 2019.