Hywel Gwynfryn: Actio yn therapi ar ôl colli fy ngwraig
- Cyhoeddwyd
Dros yr haf roedd Hywel Gwynfryn yn edrych ymlaen at wireddu uchelgais pan dderbyniodd ran mewn pantomeim. Ond yn fuan iawn wedyn fe gafodd ei wraig wybod mai wythnosau yn unig oedd ganddi i fyw.
Ar ôl trafodaeth gydag Anya, oedd â chanser, fe wnaeth barhau gyda'i gynlluniau i chwarae rhan Bendigeidfran.
Dechreuodd yr ymarferion ddiwrnod ar ôl angladd Anya ac roedd y perfformiad cyntaf yn digwydd fis ar ôl iddi farw ym mis Hydref.
Erbyn i sioe Branwen orffen ei thaith o gwmpas Cymru ym Mhontypridd ganol Rhagfyr, bydd 17,000 o blant wedi eu diddanu gan sioe ysgolion cynradd am un o chwedlau'r Mabinogion.
Yma mae Hywel Gwynfryn yn egluro wrth Cymru Fyw pam wnaeth o barhau gyda'i gynlluniau a sut fu'r profiad yn gymorth iddo mewn cyfnod mor anodd.
"Pan oedd Anya yn yr ysbyty nes i siarad efo'r tîm oedd yn gofalu amdani a wnaethon nhw ddweud 'yn hytrach na misoedd fe ddylech chi feddwl yn nhermau wythnosau'.
"A dwi'n cofio Anya yn dweud wrtha' i wedyn: 'Wyt ti'n meddwl rŵan peidio gwneud y pantomeim yn dwyt?'. A ddywedais i 'Ydw'.
"Nid fi ofynnodd iddi hi ydi o'n iawn i wneud y panto, hi ddywedodd - roedd hi'n gweld yn doedd, ac yn fy neall i'n iawn, roeddan ni'n adnabod ein gilydd ac wedi byw efo'n gilydd ers 1982 yn ŵr a gwraig ac yn agos iawn, iawn a hithau wedi bod mor gefnogol hefyd.
"Ddywedodd hi: 'wel dwi'n dweud wrtha' ti rŵan, ti'n gwneud y panto… paid ti a meiddio gadael DH i lawr!' [DH - yr actor a chynhyrchydd y sioe, Dafydd Hywel].
"Roedd hi'r math yna o berson doedd hi byth yn gadael neb i lawr.
"Pan roeddan ni'n trafod hyn roeddan ni hefyd yn gwybod y basa hi wedi fy ngadael i, fasa hi wedi marw - er dwi ddim yn hoffi dweud y gair - cyn dechrau'r panto, ac felly roeddwn i'n cael mynd i mewn i'r ymarferion efo'i bendith hi mewn ffordd.
"A dweud y gwir, mae o wedi bod yn fath o therapi i mi - mae o wedi bod yn help mewn gwirionedd.
"Rhwng 8.30 yn y bore tan 3.30 bob dydd ers mis rŵan, wel ers yr angladd dweud gwir, ro'n i'n cychwyn yr ymarfer ddiwrnod ar ôl yr angladd… ond ers y mis diwethaf mae cyfnod yn ystod bob dydd lle dwi ddim wedi meddwl am ddim byd ond be' dwi'n 'neud.
"A hefyd, 'sgen i ddim cywilydd dweud mod i, yn ystod y cyfnod yna, wedi bod yn siarad efo hi, yn gofyn iddi 'ydw i'n gwneud y peth iawn, ydi pethau'n mynd yn ok, ai dyma oeddach chdi eisiau?'
"Ac mae hynny wedi bod yn help. Ti'n gofyn y cwestiynau, dwyt ti ddim yn clywed yr ateb ond ti'n gwybod be' ydi'r ateb.
"Dydi o ddim yn fater o 'the show must go on'. Dwi'm yn credu hynny - weithiau does dim rhaid i sioe fynd yn ei flaen.
"Mae hyn yn rhywbeth rhyngof i ac Anya. 'Da ni'n deall ein gilydd.
"Dwi wedi gwneud be' oedd hi eisiau i fi wneud, dwi wedi cael gwneud be' oeddwn i eisiau ei wneud hefyd a tydi DH ddim wedi cael ei siomi - felly mae pawb yn hapus, yn yr ystyr yna.
Help i ddygymod â'r golled
"Unwaith wyt ti'n mynd i mewn a rhoi'r dillad ymlaen ac actio ar y llwyfan mae o'n mynd â dy feddwl i gyd.
"Dwi methu meddwl am un amser pan dwi wedi disgwyl yn y wings yn poeni am be' sydd wedi digwydd i mi - tydi o ddim wedi digwydd.
"A dwi wedi dweud fwy nag unwaith gyda'r nos - dwi 'di deud wrth Anya, 'roeddat ti'n iawn i 'neud fi neud o'.
"Wnaeth o ddau beth - nes i gadw at fy ngair a fuodd o'n help i mi ddygymod â be' sydd wedi digwydd.
"Mae'n siŵr fydd rhai pobl yn mynd i ddweud "sut fedra fo ponsio o gwmpas y llwyfan fel rhyw gawr mawr gwirion a'i wraig o newydd farw?"
"Ond mae pawb yn mynd drwyddo yn ei ffordd ei hun, does dim un ffordd iawn o ddod i dermau efo colled.
Dilyn eisiampl
"Y peth mwya' anodd i mi ar hyn o bryd ydi mod i'n teimlo mod i yn nhir neb - dwi'n sefyll ar bont rhwng colli fy ngwraig a chreu bywyd newydd i fi fy hun.
"Bywyd efo hi - ond fel atgof. Dwi'n colli ei phresenoldeb yn gorfforol ond sgen i ddim cywilydd dweud mod i'n teimlo hi'n agos ata' i.
"Roedd hi'n cario 'mlaen ac yn dal i fynd i'w gwaith. Normaleiddio bywyd wnaeth Anya - dyna sut wnaeth hi wynebu'r canser a pheidio â gadael i'r canser reoli ei bywyd - cario 'mlaen a delio efo'r canser 'run pryd.
"Ac felly dwi'n dilyn ei hesiampl hi mae'n siŵr ac mewn gwirionedd fasa fo'n... ddim yn sarhad, mae hwnnw'n air rhy gryf... ond taswn i'n siarad Saesneg faswn i'n dweud insult i'w chof hi a'r ffordd ddaru hi ddelio efo pethau.
"Os na alla' i ddelio efo hwn fel 'nath hi ddelio efo'r canser wel dwi angen cic yn fy nhin.
"Does yna ddim un ffordd o ddod i arfer, ti'n gwneud o dy ffordd dy hun, ond yr un peth dwi'n sicr ohono yn barod ydi, mae'n rhaid i chdi wneud rhywbeth.
"Fedri di ddim disgwyl gwella o'r clwyf oni bai dy fod yn gwneud rhywbeth.
"Mae'n 'Ddolig rŵan a tasa ni fel teulu yn eistedd rownd y bwrdd, yn bwyta bara ac yfed dŵr fasa fo ddim yn dod ag Anya yn ôl.
"Felly 'da ni'n mynd i gael 'Dolig a chofio amdani a dathlu fel 'tasa hi'n dathlu. Achos dyna mae hi eisiau ac mae'n ffordd i barchu ei chof hi a chofio."
Efallai hefyd o ddiddordeb: