Cyhoeddi'r Bloedd Gymraeg gyntaf mewn 130 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
Paul Williams o wasg Y Lolfa a'r Capten Deryk DurrantFfynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Paul Williams o wasg Y Lolfa gyda'r Capten Deryk Durrant o Fyddin yr Iachawdwriaeth a'r copïau cyntaf o rifyn Cymraeg Bloedd y Gad.

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cyhoeddi rhifyn Cymraeg o'i bapur newydd wythnosol am y tro cyntaf mewn bron i 130 o flynyddoedd.

Mae fersiwn Saseneg y papur, War Cry wedi ymddangos bob wythnos yn ddi-dor ers Rhagfyr 1879, ond does dim fersiwn Cymraeg wedi bod ers 1889.

Cafodd y rhifyn hwnnw ei argraffu yng Nghaernarfon yn 1889, ac argraffdy Y Lolfa yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth sy'n gyfrifol am y rhifyn diweddaraf, gafodd ei gyhoeddi "yn barod at y Nadolig".

Mae Bloedd y Gad ar werth am 20c yn neuaddau'r eglwys Gristnogol sydd hefyd yn gwneud gwaith elusennol ar draws y byd.

Dywedodd yr Uwchgapten George Baker - arweinydd Adran De a Chanolbarth Cymru yr eglwys - bod hwn "yn garreg filltir i Fyddin yr Iachawdwriaeth, sydd wedi bod yn gwasanaethu cymunedau ar draws Cymru ers dros 140 o flynyddoedd".

Ychwanegodd bod amseriad cyhoeddi rhifyn Cymraeg arbennig yn addas, gan ddisgrifio'r iaith fel "calon cymaint o gymunedau yr ydym ni'n rhan ohonynt, ar adeg y flwyddyn pan rydym yn dathlu newyddion da y Nadolig ac mae ein calonnau yn llawn o ysbryd y Nadolig."

Dros y blynyddoedd mae War Cry wedi cynnwys straeon am waith Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru, gan gynnwys ei chefnogaeth i gymuned Aberfan wedi trychineb 1966, a'i gweithgareddau yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ym Mae Caerdydd.

Mae'r rhifyn arbennig yn cynnwys neges dymhorol gan y Cadfridog Brian Peddle, arweinydd rhyngwladol yr eglwys, ac erthygl am lyfr newydd Byddin yr Iachawdwriaeth o alawon Nadolig.