Cau ffordd i gael gwared ar dollau dros yr Hafren

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr M4 dros Bont Tywysog Cymru ar gau dros nos o 14 Rhagfyr tan fore 17 Rhagfyr

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi wrth i lonydd gorllewinol yr M4 ar hyd Pont Tywysog Cymru gau nos Wener er mwyn cael gwared ar y tollau.

Bydd teithwyr yn cael eu dargyfeirio dros y Bont Hafren wreiddiol, ar hyd yr M48, am dair noson.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ym mis Hydref bod y tollau am gael eu diddymu erbyn 17 Rhagfyr, wedi i'r ail bont ddychwelyd i fod yn eiddo cyhoeddus ym mis Ionawr 2018.

Yn ôl un o'r staff sy'n gweithio'n casglu arian gyrwyr, bydd hi'n "gweld eisiau croesawu pobl i Gymru".

Mae rheolwr cyffredinol Priffyrdd Lloegr wedi "diolch o flaen llaw i yrwyr am eu hamynedd wrth i ni fwrw ati gyda'r gwaith".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd cau'r heol yn achosi trafferth i rai sydd wedi bod yn siopa Nadolig dros y penwythnos

Mae tua 25 miliwn o gerbydau'n croesi'r Hafren bob blwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y bydd gwaredu'r tollau yn rhoi hwb o £100m i economi'r wlad.

Dywedodd y llywodraeth y bydd cael gwared ar y tollau yn "darparu gwell cyfleoedd i'r rhai sy'n ystyried ymweld a masnachu yng Nghymru".

Cafodd y bont gyntaf ei hagor gan y Frenhines yn 1966, tra bod yr ail bont wedi cael ei hariannu gan gonsortiwm preifat a'i hagor yn 1993.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd tagfeydd wrth y tollau yn dod i ben erbyn y flwyddyn newydd

Am 20:00 nos Wener bydd lonydd gorllewinol yr M4 dros Bont Tywysog Cymru yn cau tan 06:00 fore Sadwrn, cyn cau eto am 20:00 nos Sadwrn ac ail-agor am 06:00 fore Sul.

Bydd y lonydd yna'n cael eu cau o 19:00 nos Sul tan 07:00 fore Llun.

Wedi hynny, bydd tair lôn gul ar agor i gerbydau, gyda chyfyngiad cyflymder o 50mya.

Yn dilyn hynny, bydd lonydd gorllewinol yr M48 dros Bont Hafren yn cau tan 19 Rhagfyr.

Bydd ganddynt hwythau hefyd gyfyngiad cyflymder o 50mya am y tro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tollau wedi bod ar waith ers i'r bont gyntaf agor yn 1966

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'n rhaid talu i ddod i mewn i Gymru, ond nid i adael

Yn ôl Hannah Milliner, rheolwr cyffredinol Pontydd Hafren ar ran asiantaeth Priffyrdd Lloegr: "Mae hwn yn waith sylweddol sy'n mynd i fod yn gymhlethach na jyst gwaredu'r tollau.

"Rydym am sicrhau bod modd i deithwyr barhau i ddefnyddio'r heol yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim erbyn diwedd y flwyddyn, ac wedi hynny fyddwn yn canolbwyntio ar gam nesaf y gwaith."

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn 2019 i addasu'r heol dros y ddwy bont i greu priffyrdd pwrpasol gyda thair lôn â chyfyngiad cyflymder o 70mya.

'Gweithred symbolaidd o fath'

Mae'r tollau wedi bod ar waith ers i'r bont gyntaf agor yn 1966, gyda theithwyr yn talu i ddod o dde-orllewin Lloegr i Gymru.

Ysgrifennodd Deborah Hitchins, sy'n gweithio ar y tollau, ar ei blog personol, y bydd hi'n "gweld eisiau croesawu'r byd i Gymru".

Mae hi'n un o'r 100 o bobl sy'n cael eu diswyddo wrth i'r tollau gau, gan hefyd arwain at gau'r swyddfa TAG yn Rogiet.

Dywedodd Ms Hitchins wrth deithwyr sy'n dathlu diwedd y tollau: "Cofiwch na fydd neb yno i'ch croesawu i Gymru rhagor.

"Mae tollau'r bont wedi datblygu'n draddodiad dros y 50 mlynedd ddiwethaf ac mae talu'r doll yn weithred symbolaidd o fath, ac yn rhoi'r teimlad o ddod adref i nifer."