Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gleision 14-26 Saracens

  • Cyhoeddwyd
Dan Fish yn croesi i'r GleisionFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dan Fish yn croesi i'r Gleision

Mae gobeithion y Gleision o gyrraedd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ben ar ôl colli gartref yn erbyn y Saracens.

Owen Farrell sgoriodd 16 o bwyntiau'r ymwelwyr i sicrhau'r ail fuddugoliaeth dros y Gleision mewn chwe diwrnod.

Roedd ei anal yn gywir gyda phedair cic gosb a dau drosiad.

Y tîm cartref oedd ar y blaen 14-12 ar yr egwyl diolch i gais yr un gan Rey Lee-Lo a Dan Fish.

Cyn hynny roedd Sean Maitland wedi agor y sgorio i'r Saracens.

Fe aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen diolch i Farrell ac yna cais hwyr gan Jamie George.

Hon oedd gêm gynaf yn ôl i Josh Navidi wrth iddo ddychwelyd ar ôl absenoldeb o ddau fis wedi anaf i'w ben-glin.

Roedd yn un o naw o newidiadau i'r tîm wnaeth golli 51-25 i'r Saracens yr wythnos diwethaf.