Effaith nosweithiau hir y gaeaf ar iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn edrych trwy ffenestFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anhwylder Affeithiol Tymhorol yn iselder sydd fel arfer yn effeithio ar bobl rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth

Wrth i'r diwrnod ddechrau ymestyn yn araf bach, mae nifer o bobl yn ei chael hi'n anoddach na'r gweddill i ymdopi gyda nosweithiau hirion.

Mae'r diffyg golau'n effeithio'n aruthrol ar unigolion â'r cyflwr Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD).

Yn ôl ystadegau'r Gronfa Iechyd Meddwl, mae SAD yn effeithio ar un o bob 15 o bobl yn y DU.

Dywedodd cyfarwyddwr Mind Cymru bod hwyl yr ŵyl yn gallu bod yn brofiad "dwys", ond bod yna hefyd "gynhaliaeth" yng nghwmni'r bobl sy'n dod at ei gilydd dros y Nadolig.

'Llai productive ac yn isel'

Sylwodd Rhys Dafis, myfyriwr ôl-raddedig yng Nghaerdydd, fod ei hwyliau'n newid gyda'r gaeaf tua phum mlynedd yn ôl.

"Fi ddim 'di sylwi cymaint gyda'r Nadolig ond fi wastad yn gweld tua Tachwedd yn mynd yn llai productive ac yn fwy isel, ac mae hynny fel arfer yn para tan fis Mawrth."

"Mae'r Nadolig ei hun yn gallu bod yn frêc neis, ond ti yn gallu teimlo'r pwysau i fod yn gymdeithasol a bod yn cheery am fod pawb arall yn teimlo felly.

"O ran hynny, mae'n anoddach esgus."

Beth yw SAD?

  • Mae SAD yn fath o iselder sy'n effeithio ar unigolyn yn ystod misoedd y gaeaf.

  • Mae'r symptomau'n debyg iawn i rai iselder - hwyliau isel parhaus, teimlo'n ddagreuol ac anobeithiol, gorbryderu, a phroblemau cysgu.

  • Mae ymchwil a thystiolaeth i ddangos mai prif achos SAD yw diffyg golau, sydd yna'n effeithio ar gemegau serotonin a melatonin yn yr ymennydd.

  • Mae nifer yn defnyddio bocys sy'n tywynnu golau arbennig fel ffordd o ddelio gyda'r diffyg golau.

Cyfaddefa Rhys ei fod yn dal yn datblygu technegau i ddelio gyda'i gyflwr.

"Blwyddyn diwetha nes i drio'r lightbox, a 'sai'n gwbod pa mor wyddonol yw e, ond mae'n olau llachar sydd fel yr haul," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rhys Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Sylwodd Rhys ei fod yn profi iselder dwys yn ystod y gaeaf bum mlynedd yn ôl

"Mae aelod o'r teulu yn dioddef hefyd, ac oddi wrthi hi ces i'r syniad i'w ddefnyddio."

"Fi dal llai productive yn ystod misoedd y gaeaf, ond dyw fy mood ddim mor isel eleni."

Dywedodd Rhys ei fod hefyd yn ymdrechu i adael y tŷ, er fod hynny'n gallu bod yn gorfforol ac yn feddyliol anodd.

Fodd bynnag, wrth drafod y ffordd ymlaen, pwysleisiodd ei fod yn bwysig "siarad" am iechyd meddwl gyda theulu, ffrindiau a phobl eraill.

Anodd mynd i bartïon

Esboniodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gweld newid tywydd a hinsawdd yn cael effaith ar ein hiechyd meddwl ni, ond mae SAD yn rhywbeth mwy dwys ac yn peri i bobl fynd yn wirioneddol isel eu hysbryd ac i gorbryderu.

"Mae golau'n benodol yn rhywbeth sy'n gallu effeithio ar y newid hwnnw. Mae golau yn rheoleiddio pryd rydym yn cysgu a deffro ac mae'r newid yn hyd y dydd yn ystod y gaeaf yn amharu ar hynny hefyd."

Mae gan gyfnod y Nadolig heriau ychwanegol i bobl gyda'r cyflwr SAD.

Dywedodd Ms Moseley: "Mae'n bwysig peidio â mynd yn rhy stressed. Mae 'na ddiffyg egni yn naturiol gyda chyflwr fel SAD ac mae'n anodd felly mynd i bartïon yr ŵyl a chymdeithasu.

"Os ydych chi'n teimlo'n isel, y peth diwethaf chi eisiau gwneud yw mynd i rywle â lot o sŵn."

Ond fe ychwanegodd bod "cwrdd â phobl a chael cynhaliaeth" yn rhywbeth sydd hefyd yn bwysig wrth ymdopi gydag iselder yn gyffredinol, a bod teuluoedd a ffrindiau'n dod at ei gilydd dros y Nadolig yn gallu bod o gymorth mawr.