Abertawe: Clirio 31,000 tunnell o wastraff anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae 31,000 tunnell o wastraff anghyfreithlon wedi cael ei glirio o safle yn Abertawe yn dilyn camau gweithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ar ei anterth, roedd y safle yn nociau Abertawe yn cynnwys 31,000 tunnell o wastraff oedd yn cael ei gadw'n anghyfreithlon.
Yn ôl CNC roedd y gwastraff yn risg i bobl, busnesau a'r amgylchedd oherwydd plâu, arogleuon a llygredd.
Roedd y sbwriel yn cael ei gadw mewn bêls gyda gwastraff cartref nad oedd modd ei ailgylchu.
Yn ôl CNC roedd y gwastraff yn cael ei storio dros dro ar y safle gan ddau gwmni, EPS (Alternative Fuels) Ltd ac Environmental Practical Solutions Ltd, cyn cael ei allforio.
Ond er derbyn tâl am y gwastraff, methodd y cwmnïau symud mwyafrif y gwastraff gan adael pentyrrau mawr ar y safle.
Cafodd y ddau gwmni eu diddymu yn 2017 gan adael 6,000 tunnell o wastraff ar y safle.
Dywedodd Jonathan Willington, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff yn CNC fod gan "fusnesau sydd â gwastraff ddyletswydd i'w waredu'n gyfrifol a heb niweidio trigolion yr ardal na'r amgylchedd".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llwyddo i glirio'r safle bellach.