Wrecsam yn penodi Mike Newell fel is-reolwr
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi penodi cyn ymosodwr Blackburn Rovers ac Everton, Mike Newell, fel is-reolwr.
Bydd Newell, oedd yn aelod o'r tîm Blackburn a enillodd Uwch Gynghrair Lloegr yn 1995, yn cynorthwyo rheolwr newydd y Dreigiau, Graham Barrow.
Bu'r ddau yn chwarae i Wigan Athletic am gyfnod, a dywedodd Newell ei fod wedi cytuno i ymuno â Wrecsam "yn syth".
Yn y gorffennol mae Newell wedi rheoli Hartlepool United, Luton Town a Grimsby Town, yn ogystal â chyfnodau yn hyfforddi Accrington Stanley ac Al-Shabab.
Ychwanegodd Newell, sydd wedi arwyddo cytundeb dyflwydd a hanner gyda'r clwb, fod Wrecsam yn un o'r timau mwyaf yn y gynghrair a'i fod yn deall pa mor anodd yw'r dasg o ennill dyrchafiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018