Oedi hir cyn cludo plant difrifol wael ar gynnydd
- Cyhoeddwyd
Roedd un o bob tri phlentyn oedd yn ddifrifol wael ac angen cludiant mewn ambiwlans arbenigol i uned gofal dwys y llynedd wedi gorfod aros am fwy na thair awr, yn ôl ffigyrau.
Tîm ym Mryste, Watch (Wales and West Acute Transport for Children) sy'n gyfrifol am drefnu cludiant arbenigol i drosglwyddo cleifion o ysbytai yng nghanolbarth, de a gorllewin Cymru ac mae yna darged iddyn nhw gyrraedd gwely claf o fewn tair awr.
Ond yn ôl archwiliad i'r 316 o drosglwyddiadau yn 2017 fe gymrodd yn hirach na thair awr i'r ambiwlans gyrraedd yn 31.6% o'r achosion, o'i gymharu â 28.1% yn 2016.
Dywed GIG Cymru nad ydy'r byrddau iechyd wedi codi pryderon ffurfiol, ac mae'r ymddiriedolaeth iechyd ym Mryste sy'n rhedeg y gwasanaeth, yn dweud bod y gwasanaeth yn un "o safon uchel" ond mae gwasanaethu ardal eang sy'n ymestyn i Gernyw yn golygu bod rhai trosglwyddiadau'n "gallu cymryd hirach na'r targed cenedlaethol".
Newid dadlueol
Roedd perfformiad timau arbenigol cyfatebol eraill y DU yn well ar gyfartaledd - 11.9% oedd cyfran y galwadau a gymrodd fwy na thair awr cyn cyrraedd gwely'r claf ar y cyfan yn 2017, o'i gymharu â 13.7% yn 2016.
Roedd y penderfyniad i sefydlu tîm Watch yn ddadleuol gan ei fod yn golygu gwasanaethau ardal ddaearyddol fawr sy'n cynnwys de orllewin Lloegr yn ogystal â rhan helaeth o Gymru.
Fe ddechreuodd ar ei waith yn 2015, gan ddisodli tîm yng Nghaerdydd. Mae'n trefnu cludiant i 22 o ysbytai yng Nghymru.
Ym mis Chwefror fe ddywedodd nifer o rieni oedd yn defnyddio gwasanaeth Watch wrth raglen BBC Wales Live bod eu plant yn wynebu amseroedd aros hir am ambiwlans arbenigol.
Dywedodd llefarydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC), sy'n comisiynu'r gwasanaeth ar ran byrddau iechyd Cymru: "Does dim pryderon ffurfiol wedi eu codi gan fyrddau iechyd i PGIAC ynghylch y gwasanaeth presennol.
Ychwanegodd fod Watch yn rhan o adolygiad diweddar o wasanaethau cludo cleifion pedeatrig a bod "PGIAC yn aros am y canlyniad".
Dywedodd llefarydd ar ran University Hospitals Bristol NHS Foundation Trust: "Mae ein tîm Watch ymroddgar yn parhau i ddarparu gwasanaeth arbenigol, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn derbyn cyfeiriadau a throsglwyddiadau plant difrifol wael i unedau gofal dwys pediatrig priodol.
Ond fe ychwanegodd bod "derbyn cyfeiriadau gan ysbytai, o Aberystwyth yng ngorllewin Cymru i Truro yng Nghernyw... yn golygu bod rhai [o'r trosglwyddiadau] yn gallu cymryd hirach na'r targed cenedlaethol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018