'Plant difrifol wael yn aros yn hir am ambiwlans'
- Cyhoeddwyd
Mae plant difrifol wael yng Nghymru sydd angen gofal dwys yn wynebu amseroedd aros hir am ambiwlans arbenigol, yn ôl data sydd wedi'i weld gan raglen Wales Live.
Mae'r cludiant rhwng ysbytai mewn ardaloedd ac unedau gofal dwys yn cael ei reoli gan dîm i Fryste, sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru a de orllewin Lloegr.
Yn 2016 - blwyddyn gyntaf gwasanaeth Wales and West Acute Transport for Children (WATCh) - fe gymerodd 29% o gludiant dros dair awr i gyrraedd y claf, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 15%.
Mae llefarydd ar ran GIG Cymru wedi cydnabod fod argaeledd gwlâu a daearyddiaeth yn golygu fod "rhai adferiadau yn cymryd mwy o amser."
'Monitro llwyddiant'
Mae pwyllgor GIG Cymru, sydd wedi comisiynu'r gwasanaeth, yn dweud eu bod yn "monitro llwyddiant" y gwaith mae WATCh yn ei ddatblygu, ac yn adolygu'r holl wasanaethau gofal dwys i blant.
Mae sawl claf sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth wedi dweud wrth Wales Live fod eu plant wedi gorfod disgwyl amseroedd hir - un am 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant - gan fod tîm WATCh ar alwadau yn ne orllewin Lloegr pan oedd eu hangen.
Mae data sydd wedi'i ryddhau i raglen Wales Live dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos, rhwng Hydref 2016 a Gorffennaf 2017, fod:
Plentyn yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi aros mwy na 12 awr
Plentyn arall yn Glangwili wedi aros mwy nag 11 awr
Dau blentyn yn Ysbyty Brenhinol Bro Morgannwg, Llantrisant wedi aros mwy nag wyth awr, fel y gwnaeth plentyn yn Nevill Hall Y Fenni.
Fe gafodd tîm WATCh ei sefydlu yn 2015, yn lle gwasanaeth oedd yn gweithio ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru, oedd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
Mae'n cludo plant o 22 ysbyty, gan gynnwys Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Royal Cornwall yn Truro a Great Western yn Swindon.
Mae WATCh yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Bryste, ac mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei ddarparu gan gwmni preifat o'r enw Bristol Ambulance Emergency Medical Service.
Dywedodd Bryony Strachan, Cadeirydd Clinigol ar gyfer gwasanaethau merched a phlant yn Ysbyty Prifysgol Bryste fod nifer o wasanaethau tebyg wedi'u "canoli" dros y blynyddoedd: "Mae cyflawni gofal dwys o safon uchel yng nghefn cerbyd sy'n symud yn cymryd amser maith o hyfforddi, arbenigedd ac ymrwymiad, a gwasanaethau cydnabyddedig yw'r gorau i gyflawni hyn.
"Ar rai adegau, mae daearyddiaeth rhai ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu a'r gwahaniaeth tymhorol o ran argaeledd gwlâu gofal dwys plant yn genedlaethol yn golygu fod rhai adferiadau yn cymryd mwy o amser.
'Lledaenu'r ymgynghori'
Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaethau iechyd arbenigol Cymru (WHSSC), Dr Sian Lewis: "Rydym mewn cysylltiad cyson gyda'n partneriaid sy'n cynnal gwasanaethau yr ydym yn eu comisiynu, er mwyn monitro'r cynnydd a'r amcanion.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau cludiant wrth i ni ledaenu'r ymgynghori i ofal plant yng Nghymru yn 2018."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw ddim i'w ychwanegu at ddatganiad WHSSC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2017