Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Aldershot 0 - 0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi un safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr er iddyn nhw fethu â sgorio yng ngêm gyntaf Graham Barrow fel rheolwr parhaol y clwb.
James Jennings gafodd cyfle gorau'r Dreigiau yn yr hanner cyntaf a bu'n rhaid i golwr Aldershot, Will Mannion wneud sawl arbediad campus i atal y gwrthwynebwyr rhag sgorio.
Ond â'r tîm cartref yn agosach at waelod y tabl ac yn colli nifer o chwaraewyr oherwydd anafiadau, roedd gêm ddi-sgôr yn "rhwystredig", yn ôl Barrow.
Serchy hynny, roedd yn canmol perfformiad ei chwaraewyr yn yr ail hanner ac yn croesawu'r pwynt, oedd yn ddigon i godi i'r drydedd safle - chwe phwynt y tu ôl i Leyton Orient ar y brig.