Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-1 Salford City

  • Cyhoeddwyd
Bradley WalkerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bradley Walker, gynt o Crewe, oedd un o sgorwyr Wrecsam

Ennill yn gyfforddus oedd hanes Wrecsam wrth iddyn nhw drechu Salford City o flaen 8,283 o gefnogwyr ar y Cae Ras.

Yn dilyn y canlyniad, mae'r Dreigiau yn neidio uwchben Salford i'r ail safle yn y tabl.

Fe sgoriodd y tîm cartref deirgwaith yn yr hanner cyntaf - goliau gan Shaun Pearson, Akil Wright a Brad Walker.

Yr eilyddion Ben Tollitt a Chris Holroyd ychwanegodd y bedwaredd a'r bumed.

Fe sgoriodd Daniel Whitehead gôl gysur hwyr i'r ymwelwyr - a oedd wedi gweld Thomas Walker yn cael ei anfon o'r cae.

Mae Wrecsam bellach tri phwynt tu ôl i Leyton Orient, sydd ar frig y Gynghrair Genedlaethol.