'Gadewch i deulu fy chwaer ddod gartref'

  • Cyhoeddwyd
Safia Saleh yn fabiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Safia Saleh ei chipio yn 18 mis oes

Mae teulu dynes gafodd ei chipio yn ei babandod a'i chymryd i Yemen yn galw ar Lywodraeth y DU i'w chael yn ôl i Gymru.

Erbyn hyn mae Safia Saleh wedi priodi gyda phedwar o blant - ond bu'n rhaid i'r teulu ffoi o Yemen Noswyl Nadolig oherwydd y rhyfel cartref yno.

Dywedodd hanner chwaer Safia, Lucy Hewer - 30 oed o Gaerdydd - fod angen fisa a phasport brys ar y teulu cyn cael dod i'r DU.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod "yn rhoi cymorth i ddynes Brydeinig a'i theulu yn Cairo wrth iddynt geisio am ddogfennau i deithio i'r DU".

Yn 1986, cafodd Safia, 18 mis oed, a'i chwiorydd Rahannah, pump a Nadia, pedair, eu cipio gan eu tad.

Dywedodd Sadek Saleh, yn wreiddiol o'r Yemen, wrth ei wraig Jackie Saleh ei fod yn mynd â'r plant i dŷ ei dad yn y Rhath, ond ni ddychwelodd.

Roedd Mr a Mrs Saleh wedi gwahanu ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Safia Saleh
Disgrifiad o’r llun,

Mae Safia Saleh, ei gŵr a'i phlant 12, 11, 10 a dwy oed am ddod i'r DU

Fe wnaeth swyddogion Interpol ddarganfod ei fod wedi ffoi i Yemen, ond methiant oedd ymdrechion i ddod o hyd i'r teulu.

Ond yna 2001 fe wnaeth Jackie Saleh dderbyn llythyr annisgwyl, mewn Arabeg, gan ei merch hynaf Rahannah.

Yna, fe wnaeth hi deithio i'r Yemen i gwrdd â'i phlant am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd.

Yn 2007, bu farw Nadia wrth roi genedigaeth.

Bu farw Sadek Saleh yn yr un flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Jackie Saleh
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rahannah a Nadia (yn y llun) ynghyd â Safia eu cipio yn 1986

Dywedodd Ms Hewer fod y cyfathrebu gyda Rahanna yn anghyson, a bod ymdrechion i gael fisa iddi hi a'i gŵr ddod i'r DU wedi methu.

Ond mae Safia am ddychwelyd i'r DU ac roedd wedi llwyddo i brynu tocynnau i hedfan o Yemen ynghyd â'i gwr Labib a'i phlant.

Dywedodd Ms Hewer fod bywyd dyddiol yn ardal Hodeidah yn hynod beryglus wrth i awyrennau Saudi Arabia dargedu gwrthryfelwyr Houthi.

"Does dim modd iddi adael y tŷ," meddai.

Ffynhonnell y llun, Jackie Saleh
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sadek Saleh gipio'r plant a mynd â nhw i Yemen

"Does dim modd i'r plant adael y tŷ o gwbl, mae'n amhosib mynd allan i chwarae rhag ofn iddynt gael eu lladd neu eu herwgipio."

Erbyn hyn maen nhw wedi ffoi i'r Aifft ac yn ceisio teithio i'r DU.

Ond mae eu cais am ddogfennau wedi bod yn aflwyddiannus ar ôl i swyddogion diogelwch wrthod mynediad i lysgennad y DU yn Cairo.

Dywedodd Ms Hewer fod gan Safia dystysgrif Brydeinig a'r dogfennau sydd eu hangen ar gyfer ei phlant, ond fod angen fisa ar gyfer ei gŵr.

"Nid ydym am i'r teulu gael ei wahanu," meddai.