Diffyg eglurder am gronfa newydd wedi Brexit yn 'hurt'

  • Cyhoeddwyd
Baneri Cymru a'r UE

Mae'r diffyg eglurder gan Lywodraeth Prydain am y gronfa newydd fydd yn y disodli cymorth economaidd yr UE i Gymru ar ôl Brexit yn "hollol hurt", yn ôl AS Llafur Dyffryn Clwyd.

Roedd disgwyl i weinidogion gyhoeddi manylion yr ymgynghoriad ar y Gronfa Ffyniant Cyffredinol cyn diwedd 2018.

Mae'r gwrthbleidiau wedi mynegi pryderon am yr oedi ac yn mynnu bod angen y manylion ar frys.

Yn ôl Llywodraeth y DU, maent yn bwriadu "ymgynghori cyn bo hir".

Gwrthod cadarnhau

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw'n sefydlu "Cronfa Ffyniant Cyffredinol" yn lle'r cymorth ariannol sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Y nod ydi lleihau anghydraddoldeb ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.

Fel un o wledydd tlotaf yr Undeb Ewropeaidd, bydd Cymru wedi derbyn mwy na £5bn mewn taliadau strwythurol erbyn 2020. Bydd hynny'n dod i ben wedi Brexit.

Mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod cadarnhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli cyllideb newydd fydd yn disodli cymorth economaidd yr UE ar ôl Brexit.

Yn flaenorol, mae Theresa May wedi gwrthod cadarnhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli'r gyllideb newydd.

Diffyg eglurdeb 'hurt'

Mae angen i weinidogion y llywodraeth roi mwy o fanylion am strwythur ac amserlen y gronfa, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Dyffryn Clwyd, Chris Ruane.

Dywedodd: "Mae'r diffyg eglurder yn hollol hurt. Mae'n rhaid i fusnesau a mentrau eraill weithredu gyda'i dwylo wedi eu clymu tu ôl i'w cefn gan nad ydyn nhw'n gallu gwneud penderfyniadau wedi 2020, tra bod llywodraeth leol methu mynd ymlaen gyda phrosiectau isadeiledd gan nad ydyn nhw'n gwybod pa gefnogaeth fydd ar gael yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, House of Commons
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i weinidogion y llywodraeth roi mwy o fanylion am strwythur ac amserlen y gronfa, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Dyffryn Clwyd, Chris Ruane.

Ychwanegodd: "Y peth sy'n hynod o rwystredig yw nad ydi'r polisi yma'n amodol ar yr Undeb Ewropeaidd na ein perthynas yn y dyfodol. Mae hwn yn fater mewnol ac fe all y llywodraeth ddatrys yr ansicrwydd ar frys os byddai'r ewyllys yna."

Mae'r "esgeulustod" sy'n cael ei ddangos gan y llywodraeth yn "syfrdanol", yn ôl AS Plaid Cymru Ceredigion Ben Lake.

"Mae 'na le difrifol i boeni am y diffyg gwybodaeth a'r cynllunio ymlaen llaw ar gynllun cyllido mor bwysig," meddai.

'Pwysigrwydd cynnig sicrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r pwysigrwydd i gynnig sicrwydd i gymunedau ar ddyfodol cyllid twf lleol unwaith i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a darparu eglurdeb am Gronfa Ffyniant Cyffredinol y DU (UKSPF).

"Rydym wedi parhau i ddatblygu cynllun UKSPF dros y flwyddyn ddiwethaf, cyn yr ymgynghoriad arfaethedig.

"Mae digwyddiadau ymgynghori wedi cael eu cynnal ar hyd y DU, gan gynnwys yng Nghymru, er mwyn cynorthwyo datblygu polisi. Bydd ymgynghoriad UKSPF yn adeiladu ar y sgyrsiau hynny ac rydym yn bwriadu ymgynghori cyn bo hir."