Ymchwiliad i 'ymddygiad hiliol' yng ngêm Wrecsam a Dover

  • Cyhoeddwyd
Cae RasFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i adroddiadau o "ymddygiad hiliol ac annerbyniol" yn ystod gêm Wrecsam a Dover ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd y llu eu bod yn "gweithio'n agos gyda CPD Wrecsam i ganfod y ffeithiau".

Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd Wrecsam eu bod nhw wedi derbyn dau adroddiad o "ymddygiad gwahaniaethol", a bod tystion i'r digwyddiadau honedig yn cynnwys chwaraewyr a staff o'r ddau dîm.

Fe wnaeth y clwb ymddiheuro i Dover am y digwyddiadau, gan gynnwys un a ddaeth yn dilyn gôl hwyr i'r ymwelwyr.

Dywedodd Wrecsam nad oedden nhw'n derbyn "unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol", gan rybuddio cefnogwyr y gallai hynny niweidio "enw da'r clwb".

"Fe fydd ymchwiliad y clwb yn rhedeg ochr yn ochr ag ymchwiliad yr heddlu ac yn ei gefnogi, wedi i dri pherson gael eu holi gan swyddogion ar ddyletswydd yn ystod y gêm ddydd Sadwrn," meddai'r clwb mewn datganiad nos Lun.

"Os oes camau troseddol yn gorfod cael eu cymryd bydd yr unigolion hyn yn wynebu cosbau llym gan y clwb, gan gynnwys gwaharddiadau o unrhyw ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar y Cae Ras."