Mark Drakeford yn 'nerfus' cyn cael ei holi gan ACau
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi cyfaddef ei fod yn nerfus wrth iddo baratoi i gael ei holi gan Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf ers dod yn Brif Weinidog Cymru.
Fe fydd arweinydd Llafur Cymru yn wynebu'r Cynulliad ar gyfer ei sesiwn gyntaf o Gwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.
"Os nad oedd 'na beth nerfau am hyn, yna fydden i ddim yn gwneud y swydd yn y ffordd iawn", meddai Mr Drakeford.
Fe ddaeth Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru ar ôl ennill y ras i arwain ei blaid ym mis Rhagfyr.
Mae'r sesiwn o Gwestiynau i'r Prif Weinidog yn cael ei chynnal bob prynhawn Mawrth yn ystod y tymor gwleidyddol.
Fe fydd Aelodau Cynulliad cyffredin yn holi cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno o flaen llaw, ond fe all arweinwyr y pleidiau ofyn beth bynnag a fynnon nhw.
"Mae'n anochel fy mod i'n nerfus cyn i mi sefyll ar fy nhraed yn y Cynulliad ar gyfer unrhyw beth 'dwi wedi'i wneud," dywedodd y cyn-weinidog Cyllid.
"Dwi wedi treulio rhan fawr o'r penwythnos yn paratoi, ac fe fu'n rhaid i mi esbonio i'r teulu y bydd hyn yn rhan o bob penwythnos o hyn ymlaen.
"Dwi'n siwr y byddai'n nerfus wrth gerdded draw at y lifft."
'Ddim yn edrych 'mlaen'
Dywedodd Mr Drakeford ym mis Tachwedd nad oedd ganddo unrhyw uchelgais bersonol i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Ychwanegodd: "Mae rhannau o'r swydd dwi'n gwybod y byddaf yn eu mwynhau yn fawr, ond ar ôl gweithio am 10 mlynedd yn swyddfa Rhodri Morgan 'dwi'n gwybod y bydd rhai rhannau o'r swydd na fyddai yn edrych ymlaen atynt hefyd.
"Dwi ddim yn credu y byddaf yn edrych 'mlaen at sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog. 'Dwi ddim yn mwynhau'r math yna o awyrgylch gwleidyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018