Dim cosb am ryddhau enwau ffermydd difa moch daear

  • Cyhoeddwyd
Moch daearFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 37 o foch daear eu dal a phump eu lladd fel rhan o'r ymgyrch

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chosbi am anfon manylion ffermydd lle cafodd moch daear eu lladd at grŵp hawliau anifeiliaid ar ddamwain.

Cafodd enwau a lleoliadau eu rhyddhau mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.

Fe arweiniodd at ofnau y gallai'r ffermydd gael eu targedu gan ymgyrchwyr, ac addewid gan swyddogion y bydden nhw'n cynnal ymchwiliad ar frys.

Bellach, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi penderfynu nad oes angen gweithredu ymhellach.

Cost o £382,112

Cafodd manylion y tair ffarm oedd yn rhan o arbrawf dadleuol gan y llywodraeth eu rhannu ar Facebook, gydag ymgyrchwyr yn annog y cyhoedd i'w "monitro".

Mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r diciâu mewn gwartheg roedd moch daear yn cael eu dal mewn cawelli a'u difa os oedd profion yn dangos eu bod wedi'u heintio.

Roedd y grŵp wedi gofyn am gael gweld adroddiad gan Lywodraeth Cymru, ddangosodd bod 37 o foch daear wedi'u dal a phump wedi'u lladd - ar gost o £382,112.

Ond cafodd y ddogfen ei ryddhau gan swyddogion heb ddileu enwau a lleoliad y ffermydd, oedd i fod yn gyfrinach.

'Camgymeriad gweinyddol'

Dywedodd NFU Cymru eu bod wedi'u "siomi'n ddirfawr" gan yr hyn a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth Cymru fel "camgymeriad gweinyddol".

Ychwanegodd llywydd yr undeb amaethyddol, John Davies ei fod wedi ysgrifennu at weinidogion yn yr haf i fynegi ei bryder ynglŷn â lles y ffermwyr oedd wedi eu heffeithio.

"Ry'n ni eisoes wedi derbyn crynodeb fanwl o ymchwiliad mewnol Llywodraeth Cymru ac ymddiheuriad ffurfiol," meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod wedi ymchwilio ymhellach i'r mater a phenderfynu "nad oes angen gweithredu ymhellach ar hyn o bryd".