Ateb y Galw: Y cerddor Griff Lynch
- Cyhoeddwyd

Y cerddor Griff Lynch sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Hanna Jarman yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ddim yn 100% siŵr, ond ma' treulio amser yn tŷ Nain yn Pentrefoelas yng nghanol niwl y cof.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Janis oedd yr un dosbarth a fi. A Jenna oedd tua pedair mlynedd yn hŷn.

Mae Griff wedi profi llwyddiant gyda'r band Yr Ods
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
'Nath pennod gyntaf rhaglen oeddwn i'n ei chyflwyno yn fyw ar y teledu droi yn crash car o'r radd fwyaf. Dipyn o graith ar yr enaid...
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wsos yma.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dim byd dwi isho ei gyhoeddi yn yr erthygl yma.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Eitha licio stopio yn Llyn Clywedog ar yr A470, ond ma'n anodd curo adre yn Pentir.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi ddim wir yn cofio'r rhai gorau am y rhesymau amlwg. Ond mi oedd perfformio gyda Yr Ods yn gig y pafiliwn gyda cherddorfa y Welsh Pops yn dipyn o brofiad.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Sinigaidd, sych ond synhwyrol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Amrywio yn wythnosol, ond ma ffilms Tarantino yn glasuron.

Mae Quentin Tarantino yn enwog am gyfarwyddo ffilmiau fel Kill Bill, Reservoir Dogs a Django Unchained
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Nes i wylio rhaglen ddogfen Bros ar y BBC yn ddiweddar. Fysa peint efo nhw yn ddiddorol, ac yn cadarnhau bo' fi'n berson hanner call o'i gymharu.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Nes i chwarae rôl Oliver yn sioe gerdd yr ysgol, ac o'n i'n dipyn o foi am actio deud y gwir.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwin da efo teulu a ffrindia'.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Perfect Day, Lou Reed. Perffeithrwydd.

Lou Reed yn 1972, y flwyddyn y rhyddhaodd Perfect Day
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Arancini bolognaise, stêc ddrud, crymbl afal.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Alun Cairns, jest er mwyn trio dallt y boi.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Iestyn Arwel