Tlws FA Lloegr: Wrecsam 0-1 Leyton Orient

  • Cyhoeddwyd
Matt Harrold yn rhoi Leyton Orient ar y blaenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Matt Harrold yn rhoi Leyton Orient ar y blaen

Perfformiad siomedig oedd un Wrecsam ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth iddynt wynebu Leyton Orient yn ail rownd Tlws yr FA.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr am dros awr.

Yn y diwedd cic gosb a wahanodd y ddau dîm a hynny wrth i Harrold sgorio i'r ymwelwyr er fod Leyton i lawr i ddeg dyn.

Wrth siarad ar ddiwedd y gêm dywedodd y rheolwr cynorthwyol Mike Newell "fod y golled yn brifo a bod yn rhaid mynd yn ôl at y sylfaen - y sylfaen hwnnw sydd wedi rhoi Wrecsam mewn safle da."