Rhybudd i Gymry wrth i firws ladd naw ym Mhatagonia
- Cyhoeddwyd

Gweithwyr yn fferyllfa fwyaf Esquel yn gwisgo mygydau tra'n delio â chwsmeriaid
Mae firws marwol wedi lladd naw o bobl yn ardal Gymreig Patagonia.
Hantavirus - haint sy'n cael ei ledu gan lygod mawr fel arfer - sy'n gyfrifol am y marwolaethau.
Ond mae swyddogion iechyd yn yr Ariannin yn credu bod modd lledu'r firws angheuol yma drwy gyswllt dynol.
Yr amcangyfrif yw bod tua 60 o achosion - 24 o'r rheiny yn ddifrifol - a 50 o bobl mewn cwarantin.
Dechreuodd yr argyfwng yn Epuyen, tref fach i'r gogledd o Esquel, y dref Gymreig fwyaf yn ardal orllewinol Patagonia.
'Ffermwr wedi lledu'r haint mewn parti'
Mae swyddogion wedi rhybuddio twristiaid o Gymru i gymryd gofal os ydyn nhw'n ymweld ag ardaloedd Cymreig Patagonia, yn enwedig os bydd symptomau tebyg i ffliw yn ymddangos o fewn wythnos neu ddwy o'u hymweliad.
Gall hantavirus achosi cyflwr ysgyfaint difrifol a phroblemau gyda'r pibellau gwaed, gan arwain at fethiant y galon a marwolaeth.
Y gred yw bod ffermwr - a oedd, yn ddiarwybod iddo, wedi'i heintio - wedi lledu'r firws drwy gyfarch pobl â chusan mewn parti ar 24 Tachwedd.
Mae sawl person a oedd yn y parti bellach wedi marw - tri o'r un teulu - ac mae yna ofnau bod rhywun wedi cario'r haint draw i Chile.
Dywedodd Huw Llewellyn-Jones bod ei ffrind ym Mhatagonia ar hyn o bryd a bod pobl yn ffoi o'r ardal Gymreig.

Mae 38% o bobl sy'n cael eu heintio gyda hantavirus yn marw
"Mae ffrind ar hyn o bryd ym Mhatagonia ac ni fydd hi'n awr yn ymweld â threfi Cymreig yn ardal yr Andes oherwydd yr holl ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r achosion ofnadwy yma," meddai.
"Mae hi'n mynd i arfordir yr Iwerydd i ffwrdd o hyn, ond mae'n dal i bryderu y gallai ymledu i Madryn a Threlew oherwydd mae'n ymddangos ei bod yn cael ei ledaenu gan gyswllt dynol.
"Mae pawb ar wyliau ar hyn o bryd ac mae llawer o bobl yn teithio i mewn ac allan o'r ardal."