Chwaraewr snwcer o Gymru'n cyfaddef trefnu canlyniad gemau

  • Cyhoeddwyd
David John a Jamie JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David John (chwith) a Jamie Jones

Mae chwaraewr snwcer o Gymru wedi cyfaddef trefnu canlyniad gemau, yn dilyn ymchwiliad gan awdurdodau.

Dywedodd David John o Ben-y-bont ei fod wedi trefnu gemau yn erbyn Graeme Dott yn 2016 a Joe Perry yn 2017.

Roedd ymchwiliad annibynnol wedi canfod fod chwaraewr arall, Jamie Jones o Gastell-nedd, yn ymwybodol o weithredoedd John, ond heb adael i'r awdurdodau snwcer wybod.

Cafodd Jones, 30, ei glirio o gyhuddiad mwy difrifol o gyflwyno John i unigolyn oedd am drefnu canlyniad gêm.

Aros am gosbau

Cafodd John, sy'n 34 oed ac yn gyn-chwaraewr proffesiynol, ei wahardd ym mis Mai.

Roedd wedi methu cyrraedd y safon i chwarae ar daith snwcer y byd y tymor blaenorol, a'r safle uchaf a gyrhaeddodd yn netholion y byd oedd rhif 98.

Dywedodd John ei fod wedi cael ei dalu £5,000 i golli gêm yn erbyn Graeme Dott yn 2016, a hynny o sgôr o 6-0 neu 6-1.

Rhoddodd dystiolaeth i'r panel annibynnol yn honni fod Jamie Jones wedi ei gyflwyno i unigolyn oedd eisiau trefnu canlyniad gêm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David John yn chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon yn 2016

Cafodd Jones ei glirio o'r cyhuddiad o fod yn rhan o'r cynllun, ond cyfaddefodd ei fod yn ymwybodol o weithredoedd John a heb ddweud wrth yr awdurdodau.

Does dim awgrym fod gemau oedd yn cynnwys Jones, oedd yn 39ain yn netholion y byd cyn cael ei wahardd, dan amheuaeth.

Bydd cosbau'r ddau, sy'n debygol o gynnwys gwaharddiad hir i John, yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y mis.

Mae gan y ddau chwaraewr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Fis diwethaf cafodd dau chwaraewr o China - Yu Delu a Cao Yupeng - eu gwahardd am drefnu canlyniadau dwy gêm ym Mhencampwriaeth Agored Cymru.

Disgrifiwyd y gemau, a gynhaliwyd ar ddiwrnod agoriadol y gystadleuaeth yn 2016, fel rhai o oriau tywyllaf y gamp.