Canolfan ymchwil newydd Thales yn dod i Lyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
Thales yn dangos dyfeisiau mewn sioeFfynhonnell y llun, Thales/Q Reytinas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd canolfan ymchwil a datblygu Thales yn dylunio systemau yn y gobaith o ddenu gwneuthurwyr newydd i'r ardal

Mae cwmni technoleg o Ffrainc yn sefydlu canolfan ymchwil a datblygu gwerth £20m yn ne Cymru.

Mae Thales, sydd â 12 o ganolfannau eraill eisoes yn y DU, yn arbenigo yn y diwydiannau amddiffyn, awyrofod a thrafnidiaeth.

Mae'n fwriad gan y cwmni i brofi dyfeisiau newydd yn y maes diogelwch digidol yn y ganolfan newydd yn safle The Works yng Nglyn Ebwy.

Y gobaith, medd y cwmni, yw y bydd "yn gatalydd ar gyfer adfywiad" yn yr ardal.

Denu gwneuthurwyr

Mae disgwyl i'r 11 gweithiwr cyntaf ddechrau fis nesaf, ac i'r ganolfan fod yn gwbl weithredol erbyn 2021.

Bydd systemau electroneg cymhleth yn cael eu datblgyu ar gyfer gwahanol ddibenion - o ddiogelwch seibr i systemau amddiffyn rhag ymosodiad o'r awyr.

Bydd y Ganolfan NDEC (National Digital Exploitation Centre) hefyd yn cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru.

Yr hyn sy'n arwyddocaol am y prosiect yw bod systemau ac offer yn cael eu datblygu a'u dylunio yng Nghymru, gyda disgwyl wedyn i gwmnïau geisio am yr hawl i'w hadeiladu.

Canlyniad hynny yw bod elfennau mwyaf proffidiol y technolegau newydd - perchnogaeth ar y syniadau - yn aros yng Nghymru.

Mae hynny'n groes i'r sefyllfa yn achosion cwmni Airbus - lle mae adenydd awyrennau'n cael eu dylunio yn Ffrainc, a'u cynhyrchu yn Sir Y Fflint - a Bowman yn Sir Caerffili.

Mae'r cwmni hwnnw'n adeiladu system dactegol ar gyfer y fyddin yn Oakdale, ond yng Nghanada y cafodd ei datblygu.

Ffynhonnell y llun, CyberLab/Thales
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ganolfan yn cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru i gynnig cyfleoedd pellach

Mae is-lywydd cyfathrebu diogel a systemau gwybodaeth Thales yn y DU, Gareth Williams, yn hanu o ardal Glyn Ebwy.

Dywedodd: "Bydd hyn yn gonglfaen pwysig i'n gallu diogelwch seibr yma yn y DU, yn rhoi lle i brofi ein technoleg, gan hefyd fod yn gatalydd am adfywiad yn yr ardal."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £10m ychwanegol at fuddsoddiad Thales.

Bydd gwaith adeiladu ar y ganolfan newydd yn dechrau yn y gwanwyn.

Bydd y ganolfan newydd yng Nglyn Ebwy yn canolbwyntio ar systemau i amddiffyn diogelwch gorsafoedd pŵer a rheilffyrdd, dŵr, telegyfathrebu a rheoli traffig awyr.

Calon Cymoedd Technoleg

Ym mis Mai y llynedd, dywedodd Thales a Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n datblygu canolfan diogelwch seibr yng Nglyn Ebwy.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, y byddai'r prosiect yn "galon" i fenter Cymoedd Technoleg y llywodraeth, a'i fod yn hyderus y byddai'n creu cyfleoedd gwaith.

"Bydd y ganolfan yn ein helpu sicrhau bod Cymru'n elwa ar gyfleoedd trawsnewid digidol byd-eang," meddai, "gan ddarparu lleoliad ar gyfer ymchwil fydd yn torri tir newydd a chyflenwi busnesau o bob maint gyda'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i sicrhau mwy o brosiectau lleol a chenedlaethol."