TVR yn 'rhwystredig' am oedi cyn gallu symud i Lyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
tvrFfynhonnell y llun, tvr
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r cwmni ceir greu 180 o swyddi newydd yng Nglyn Ebwy

Mae rhan allweddol o gynlluniau i ddatblygu canolfan foduro yn ne ddwyrain Cymru yn wynebu misoedd o oedi.

Mae gwneuthurwyr ceir TVR yn adleoli i gyrion Glyn Ebwy, ac wedi gobeithio symud eleni i adeilad o eiddo Llywodraeth Cymru.

Ond ni fydd yr uned ar stad ddiwydiannol Rassau ar gael tan haf 2019, am fod y llywodraeth wedi gorfod adnewyddu'r adeilad yn unol â rheolau cymorth gwladwriaethol.

Dywedodd TVR fod yr oedi'n "rhwystredig", ond yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y contractwr yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

'Ar ei hôl hi'

Mae Llywodraeth Cymru yn berchen 3% o'r cwmni ac wedi rhoi benthyciad o £2m i TVR a fydd yn gorfod cael ei dalu'n ôl os na fydd y cwmni'n symud i Gymru.

Dywedodd Prif Weithredwr TVR, Les Edgar, wrth Newyddion9 bod yr oedi wedi effeithio ar y busnes.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yr oedi'n rhwystredig, dywedodd: "Ydy, rhyw fymryn. Ond dydych chi ddim yn gwybod beth nad ydych chi'n ei wybod.

"Dyw hi ddim yn hawdd cael pob dim yn ei le.

"Mae e wedi oedi pethau, ond nid yw'n drychinebus o bell ffordd.

"Mae e wedi cael effaith ar ddechrau cynhyrchu, yn sicr. Fyddwn i ddim eisiau rhoi ffigwr ar y peth, ond rydym yn bendant ar ei hôl hi."

Bydd TVR yn cyflogi 180 o bobl ar y safle a fu'n perthyn i Techboard, ac maent eisoes wedi derbyn blaendaliadau ar gyfer 500 o geir gwerth £90,000 yr un.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, mae angen i Lywodraeth Cymru gynnig sicrwydd fod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n addas.

"Mae'n bwysig nawr bod yr arian mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi yn y cwmni yn mynd i arwain at y swyddi a fuddsoddodd y llywodraeth ynddynt yn y lle cyntaf.

"Mae ganddynt record ofnadwy pan ddaw hi at fuddsoddi arian cyhoeddus. Rydym wedi gweld hynny gyda Pinewood a Chylchffordd Cymru."

'Newyddion cyffrous i Gymru'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynlluniau TVR i symud i Flaenau Gwent yn newyddion cyffrous i Gymru ac i'n prosiect Cymoedd Technoleg ehangach.

"Fis diwethaf, fe wnaeth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, gyfarfod gyda'r cadeirydd Les Edgar i drafod datblygiadau ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni ac yn eu cefnogi tra'u bod yn gweithio codi'r arian angenrheidiol o'r sector breifat i barhau i gynhyrchu.

"Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau tendr ar gyfer gwaith adeiladu ar yr adeilad yng Nglyn Ebwy, ac rydym yn disgwyl penodi contractwr cyn bo hir."