Hitachi'n cwrdd i drafod dyfodol cynllun Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl penderfyniad yr wythnos hon ynghylch dyfodol cynllun gwerth £20bn i godi atomfa newydd yn Ynys Môn wrth i fwrdd rheoli cwmni Hitachi gwrdd ddydd Llun.
Yn ôl adroddiadau mae'r cwmni o Japan ar fin atal y gwaith sy'n digwydd dan adain Horizon ar safle Wylfa Newydd.
Mae yna amcangyfrif bod y prosiect â'r potensial i greu 400 o swyddi parhaol a thua 9,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu.
Mae Hitachi wedi dweud nad oes penderfyniad ffurfiol hyd yma, ond bod atal y gwaith yn opsiwn. Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn dal mewn trafodaethau gyda Hitachi.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) bod trafodaethau "masnachol sensitif" yn canolbwyntio ar gytundeb "sy'n rhoi gwerth am arian i ddefnyddwyr a threthdalwyr".
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn gwneud sylw mewn ymateb i ddamcaniaethu."
'Breuddwyd chwerthinllyd'
Daeth awgrym ddydd Gwener bod Hitachi'n bwriadu rhoi'r gorau i gynllun Wylfa Newydd wedi misoedd o ddyfalu bod y prosiect dan fygythiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny fod yr adroddiad ym mhapur Nikkei Asian Review yn Japan yn achos pryder.
Cafodd Prif Weinidog y DU, Theresa May feirniadaeth gan wleidyddion ac undebau am beidio â thrafod y mater gyda phrif weinidog Japan, Shinzo Abe pan gyfarfu'r ddau ddydd Iau.
Mae Mrs May wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na cheisio ymladd i sicrhau bod yr atomfa yn cael ei chodi ar Ynys Môn.
Yn ôl yr aelod o gabinet Cyngor Sir Ynys Môn sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, mae'r prosiect yn gyfle "unwaith mewn oes" am dwf economaidd i'r ardal.
Ond dyw'r sefyllfa ddim yn synnu Robat Idris o'r grŵp ymgyrchu Pobl Atal Wylfa B (PAWB).
"Rydym wedi rhybuddio ers sawl blwyddyn nad ydy'r prosiect yn gwneud synnwyr yn ariannol," dywedodd.
"Mae'n bryd i ddechrau o'r dechrau. Mae'n bryd i wleidyddion lleol roi'r gorau ar y freuddwyd chwerthinllyd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018