'Hon yw'r flwyddyn dwi am ddysgu gyrru'
- Cyhoeddwyd
Ar y cyntaf o Ionawr, mae'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi penderfynu ar adduned blwyddyn newydd. Ac mae'n siŵr i lawer ohonom ni ei dorri o fewn ychydig ddyddiau.
Ond mae Simon Rodway, darlithydd o Aberystwyth, eisiau sicrhau na fydd yn torri ei addewid, ac felly wedi datgan ei fwriad i ddysgu gyrru yn gyhoeddus.
Fy enw i yw Simon Rodway, rwy i'n 45 mlwydd oed, a dw i ddim yn gallu gyrru.
Ond mae hynny'n mynd i newid yn 2019. Fy Adduned Blwyddyn Newydd eleni yw dysgu.
Rwy i wedi dweud hyn yn achlysurol dros y blynyddoedd, ond bob tro mae'r flwyddyn wedi dod i ben heb i fi wireddu'r addewid. Y tro hwn, rwy i'n gwneud yr adduned yn gyhoeddus yn y gobaith y bydd hynny yn fy ysbarduno i fynd â'r maen i'r wal o'r diwedd.
'Ofn' gyrru
Sut felly ydw i wedi cyrraedd yr oedran hwn heb yrru? Pan oeddwn i'n grwt 18 oed a'm cyfoedion i gyd yn torri eu boliau eisiau bod wrth y llyw, doedd gen i ddim diddordeb. Yn fwy na hynny, roedd gen i ofn.
Roeddwn i wedi dreifio car unwaith, ar ffarm cymydog, pan oeddwn i tua 12 oed, ac roeddwn i'n hen gyfarwydd â dreifio tractor (hen Massey 35, oedd yn debycach i gart golff nac i'r bwystfilod mae ffermwyr yn eu defnyddio'r dyddiau hyn). Ond doeddwn i byth yn teimlo'n gyfforddus yn y sêt gyrru.
Doeddwn i ddim yn hyderus iawn ar gefn beic na cheffyl chwaith. Roedd yn well gen i fy nhraed fy hunan bob tro.
Nifer o fanteision
Dros y blynyddoedd, rwy i wedi ymdopi'n iawn heb gar. Rwy i'n byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd mawr, ac yn gallu cerdded i'r gwaith ac i ganol y dref yn hawdd.
Mae yna fanteision i fod yn bedestriad. Does gen i ddim o'r gost o gadw car (tanwydd, treth, MOT ayyb.), am un peth, ac mae un car yn llai ar yr heolydd yn golygu (ychydig) llai o lygredd, felly gallaf deimlo'n hunangyfiawn yn hynny o beth.
Hefyd, dw i ddim yn un am fynd i'r gampfa ac rwy i'n eistedd wrth ddesg neu'n sefyll o flaen dosbarth trwy'r dydd gwyn yn y gwaith, felly mae'r ffaith bod rhaid i fi gerdded i bob man yn helpu i'm cadw'n (weddol) heini.
Mantais arall (sydd efallai'n tynnu'n groes i'r ystyriaeth ddiwethaf) yw fy mod i'n rhydd i yfed faint bynnag rwy i mo'yn bob tro rwy i'n mynd mas!
Trafnidiaeth gyhoeddus a ffrindiau clên
Ond wrth gwrs mae yna anfanteision. Bob tro rwy i'n mynd ymhellach na Llanbadarn, mae rhaid dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar barodrwydd ffrind. Ar fy mhartner goddefgar mae'r baich yn syrthio'n fwyaf, wrth gwrs.
Bob tro mae'r plant yn cael gwahoddiad i dŷ ffrind yng nghefn gwlad, neu i barti mewn pentre cyfagos, hi sy'n gorfod mynd â nhw a'u casglu nhw.
Pan fyddwn yn mynd at ei rhieni yn Sir Benfro, hi sy'n gorfod gwneud y gwaith i gyd, tra fy mod i'n gwylio adar trwy'r ffenest. Yn amlwg, dyw hyn ddim yn deg, a dyna, yn fwy na dim byd arall, pam rwy i am ddysgu gyrru o'r diwedd.
Rhaid cyfaddef fy mod i braidd yn nerfus. Wrth i rywun fynd yn hŷn, mae'n dod yn annos dysgu sgil newydd. Dw i ddim yn disgwyl mwynhau dreifio, mewn gwirionedd, ond pwy a ŵyr? Efallai yr adeg yma y flwyddyn nesaf, mi fyddaf yn rêl petrol-head, fatha Jeremy Clarkson...
'Ta waeth am hynny, gobeithio y byddaf yn gallu rhoi pas i'm merch i'w gwers nofio o leiaf.
Efallai o ddiddordeb: