Drakeford: 'Anodd gweld heibio refferendwm arall'

  • Cyhoeddwyd
Ty'r CyffredinFfynhonnell y llun, House of Commons
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y llywodraeth golli o 230 ar bleidlais cytundeb Brexit

Mae Prif Weinidog Cymru wedi awgrymu bod yn rhaid ystyried y posibilrwydd o roi ail gyfle i'r cyhoedd fynegi barn am Brexit.

Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru ddydd Mercher bod angen rhoi amser i Theresa May geisio sicrhau cyfaddawd trawsbleidiol wedi i aelodau seneddol wrthod ei chytundeb Brexit, gan bod hi'n edrych yn debygol y bydd yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn ei llywodraeth nos Fercher.

Ond fe ychwanegodd ei fod yn "credu ers sbel bod hi'n anodd gweld be' arall all ddigwydd heblaw am fynd yn ôl at y bobl a gofyn iddyn nhw am ddyfarniad ar y ffordd orau ymlaen" os nad yw Tŷ'r Cyffredin yn cytuno ar beth ddylai ddigwydd nesaf.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn dweud ei fod yn "ffyddiog" na fydd ASau yn atal y DU rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd a bod Mrs May "yn benderfynol" o sicrhau ffordd o wireddu canlyniad y refferendwm" i adael yr UE yn 2016.

'Llinellau coch yn broblem'

Dywedodd Mr Drakeford bod y ffigyrau'r awgrymu "nad ydy'n edrych yn debygol y gall [y Blaid Lafur] drechu'r llywodraeth mewn pleidlais o ddiffyg hyder, ond mae'n rhaid gadael i'r broses fynd rhagddi".

"Bydd yna gyfnod wedi hynny lle bydd cyfle i'r Prif Weinidog weld a oes yna ffordd ymlaen.

"Os gall Tŷ'r Cyffredin gytuno ar ffordd ymlaen, fe ddaw hynny i'r amlwg... os ddim, rwy'n credu ers sbel bod hi'n anodd gweld be' arall all ddigwydd heblaw am fynd yn ôl at y bobl a gofyn iddyn nhw am ddyfarniad ar y ffordd orau ymlaen."

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford bod rhaid gwneud bopeth i osgoi dim cytundeb o gwbl

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi siarad â Mrs May nos Fawrth a bod yn sgwrs wedi ei adael dan argraff "nad ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ildio ar rai o'i 'llinellau coch' - rydym wedi dweud ers amser maith bod y strategaeth llinellau coch hyn yn rhan o'r broblem, yn hytrach na'r rhan o'r datrysiad".

Ychwanegodd bod angen i Mrs May gydnabod maint y gwrthwynebiad i'w chytundeb a chael "sgwrs go iawn" gyda'r bobl sy'n anghytuno â hi, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, "i weld a oes modd dod i gonsensws gwahanol".

Mae hefyd yn dweud y dylai Mrs May fod wedi ceisio sicrhau cyfaddawd trawsbleidiol "ddwy flynedd yn ôl, nid gydag ychydig wythnosau yn weddill".

'Amlinellu ffiniau'r UE'

Dywedodd Mr Cairns ddydd Mercher bod Mrs May "yn benderfynol" o symud ymlaen mewn ffordd sy'n gwireddu canlyniad refferendwm 2016, er i ASau wrthod ei chytundeb o 432 o bleidleisiau i 202.

"Roedd crasfa neithiwr yn sgil Brecsitwyr rhonc sydd ddim eisau cytundeb a phobl eraill sydd eisiau rhwystro'r broses.

"Rwy'n dal yn ffyddiog oherwydd 'sa i'n credu y bydd y Senedd yn pleidleisio mewn ffordd fydd yn atal Brexit."

Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alun Cairns nad yw'n credu y bydd ASau'n "pleidleisio mewn ffordd fydd yn atal Brexit"

Gyda'r disgwyl y bydd Mrs May yn goroesi'r cynnig o ddiffyg hyder, dywed Mr Cairns y byddai trafodaethau trawsbleidiol dilynol yn gyfle i'r prif weinidog amlinellu "ffiniau'r hyn y byddai Ewrop yn ei dderbyn".

"Rydym ni yn y Cabinet yn deall peryglon galwadau unigol rhai cyd-aelodau... bydd y prif weinidog yn gallu egluro'n fwy manwl 'os ydyn ni'n mynnu un peth, mae â'r potensial i beryglu rhywbeth arall'."

Wedi'r bleidlais nos Fawrth, fe ddywedodd: "Mae fyny i aelodau seneddol blaenllaw ddod a dweud beth maen nhw mo'yn," meddai. "Den ni'n gwybod beth nad maen nhw mo'yn."

Cefnogaeth gwrthryfelwyr

Mae Ceidwadwyr wnaeth bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth wedi dweud eu bod yn barod i gefnogi Mrs May yn y bleidlais o ddiffyg hyder.

Yn eu plith mae AS Aberconwy, Guto Bebb ac AS Gorllewin Clwyd, David Jones.

Pleidleisiodd Mr Bebb yn erbyn y llywodraeth gan ddweud ei fod yn "sefyllfa drychinebus" i fod ynddi.

O ran proses Brexit, awgrymodd bod refferendwm arall ar aelodaeth o'r UE yn bosib, gan ychwanegu ei fod "dal yn eithaf hyderus na throi'n ôl at y bobl fyddan ni".

Dywedodd Mr Jones, wnaeth hefyd bleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May, y byddai'n "sicr" yn ei chefnogi yn y bleidlais o ddiffyg hyder ynddi.

David Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Jones yn gwrthwynebu ail refferendwm Brexit

O'r aelodau seneddol o Gymru wnaeth bleidleisio roedd 32 wedi gwrthwynebu cytundeb Brexit y Llywodraeth, gyda chwech o blaid.

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd ei bod yn deall pam fod yna gynnig o ddiffyg hyder ddydd Mercher. Cadarnhaodd hefyd bod ei henw hi ar y cynnig o ddiffyg hyder.

"Mae hwn yn wrthwynebiad clir a phendant o gytundeb y Prif Weinidog," meddai.

"Os yw'r cynnig o ddiffyg hyder yn y llywodraeth yn methu, mae'n rhaid cael ail refferendwm, pleidlais y bobl, fel mae aelodaeth y blaid honno am ei weld."

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dweud y bydd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru "i gefnogi'r alwad am Bleidlais y Bobl yn syth" wrth gwrdd â Mr Drakeford ddydd Mercher, os fydd Mrs May yn colli'r bleidlais o ddiffyg hyder.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw