Apêl yn codi £15,000 i gludo babi sâl o Fietnam i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae apêl ar y we i helpu Cymraes o Wynedd a roddodd enedigaeth i'w merch fach 13 wythnos yn fuan yn Fietnam wedi llwyddo i godi'r arian angenrheidiol i gludo hi a'i baban i Gymru.
Mae Aurelia Dueñas Jones angen triniaeth arbenigol i'w llygaid a'i hwyneb wedi i'w mam, Jessica Jones, ei geni wedi 27 wythnos o feichiogrwydd ym mis Hydref.
Cafodd tudalen casglu arian ei sefydlu er mwyn codi £15,000 ar gyfer costau cludo Aurelia.
Dywedodd Ms Jones, sy'n wreiddiol o Borth-y-gest ger Porthmadog, bod yr ymateb i'r apêl wedi ei "syfrdanu" wedi i'r dudalen gyrraedd y nod.
"Mae rhoddion gan ffrindiau, teulu a phobol ddiarth wedi gwneud yn siwr bod ni'n gallu dod ag Aurelia adra gynted â ma' hi'n barod," meddai'r athrawes 36 oed, sy'n byw yn Fietnam gyda'i gŵr o Fecsico, Alfredo Dueñas ers dros flwyddyn a hanner.
"'Dan ni'n gobeithio [dod gartref ] ganol Chwefror. Unwaith fyddan ni'n ôl, fe wnawn hi fynd â hi i'r meddyg teulu lleol, a'i chyfeirio i'r canolfannau meddygol iawn iddi gael y gofal mae hi angen."
Pan gafodd Aurelia enedigaeth Cesaraidd brys, roedd meddygon yn Hanoi ond yn rhoi siawns o 5% iddi fyw.
Heb y driniaeth roedden nhw'n rhoi siawns lai fyth i'r fechan oroesi - rhwng 2% a 3%.
Roedd yn pwyso 2 bwys 1 owns ac yn cael trafferth anadlu heb gymorth.
Dydy rhai o'i horganau heb ddatblygu'n llawn ac mae ganddi nam ar y galon. Hefyd mae ganddi gyflwr sy'n gallu arwain at golli'r golwg.
Bu'n rhaid iddi aros yn yr ysbyty am ddau fis a hanner cyn cael gadael Noswyl y Nadolig.
Dywedodd Ms Jones: "Mae gweithio ar fabanod sydd wedi'u geni'n gynnar ar lawdriniaeth mor fanwl i'r wyneb yn eithriadol o arbenigol ac mae rhywun yn gwerthfawrogi gymaint be' ma'r Gwasanaeth Iechyd yn ei wneud a'i gynnig.
"Mae'r gofal a'r driniaeth i fabanod a phlant heb ei ail... yn anffodus, a ninna'n byw yn fan hyn mae hi'n diodde' a ddim yn gallu cael safon uwch o driniaeth.
"Mae hi angen help a gofal ychwanegol ond yn anffodus, dydy hynny ddim ar gael yma iddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019