Ychwanegu cynllun gordewdra i Fesur Iechyd Cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
person gordewFfynhonnell y llun, PA

Bydd gan weinidogion Cymru ddyletswydd i lunio strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra, fel rhan o newidiadau i gyfraith iechyd newydd.

Mae disgwyl i'r Mesur Iechyd Cyhoeddus gael ei phasio gan ACau ddydd Mawrth, ychydig dros flwyddyn ers i fersiwn gynharach ohoni fethu.

Bydd yn gwahardd ysmygu mewn meysydd chwarae, ysgolion ac ysbytai, a chyflwyno trwyddedau ar gyfer pobl sy'n cynnig gwasanaeth tatŵs.

Ni fydd yn cynnwys lled-waharddiad ar e-sigarets oedd yn y mesur blaenorol.

Trwyddedau tatŵio

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth ACau bleidleisio i gynnwys cynnig gan Blaid Cymru i osod dyletswydd ar weinidogion i lunio strategaeth genedlaethol i atal a lleihau gordewdra.

Cafodd y cynnig newydd ei gefnogi gan Lafur, y Ceidwadwyr ac UKIP.

Mae'r cynnig gwreiddiol yn y mesur ar wahardd ysmygu ar dir ysgolion, ysbytai a pharciau cyhoeddus hefyd wedi ei ymestyn i gynnwys mannau allanol o leoliadau gofal plant cofrestredig.

Mae mesurau eraill yn cynnwys system drwyddedu orfodol i wasanaethau tatŵio, tyllu'r corff, electrolysis ac aciwbigo, a gwahardd tyllu'r corff mewn mannau personol o'r corff ar gyfer plant dan 16 oed.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans y byddai'r mesur yn "creu amgylchiadau fydd yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a'u hamddiffyn rhag niwed sydd modd ei osgoi".

Roedd fersiwn gynharach y mesur, wnaeth fethu oherwydd diffyg cefnogaeth ymysg y gwrthbleidiau, yn cynnwys gwaharddiad ar e-sigarets mewn rhai mannau cyhoeddus.

Ond cafodd hynny ei feirniadu gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd disgwyl i Blaid Cymru gefnogi'r mesur, nes i sylwadau gan y cyn-weinidog gwasanaethau cyhoeddus Leighton Andrews ddigio ACau a'u harwain at bleidleisio yn ei erbyn.

Cafodd y mesur ei hailgyflwyno yn y tymor Cynulliad newydd, gyda'r polisi ar e-sigarets wedi'i dynnu allan.

Mae disgwyl nawr i ACau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP ymuno â Llafur a chefnogi mesur Llywodraeth Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth.