'Oedi cynllun Wylfa Newydd, nid atal', medd Hitachi

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Mae llefarydd cwmni Hitachi wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw penderfyniad ddydd Iau i atal gweithgareddau yn atomfa Wylfa Newydd yn golygu na fydd modd atgyfodi'r prosiect.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, Leon Flexman bod y prosiect gwerth £13bn yn costio £1m y diwrnod - sefyllfa, meddai, na allai barhau "am byth".

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn dweud ei fod yn "hyderus" y bydd atomfa yn cael ei chodi yn Ynys Môn wedi gohiriad o "nifer fach o flynyddoedd".

Yn ôl Mr Flexman datrys y sefyllfa ariannol yw "darn olaf y jig-so".

"Dydy Hitachi erioed wedi dweud y byddai'n ariannu'r cyfnod adeiladu yn ei gyfanrwydd," dywedodd wrth raglen Good Morning Wales.

"Dyw ei ddim yn stop - rydyn ni'n atal y gweithgaredd nes y bydd modd ailgychwyn, ar yr amod bod yr amgylchiadau'n gywir a'r cyllid yn ei le."

'Disgwyliad anferthol'

Ychwanegodd bod hi'n amhosib dweud beth fydd yn digwydd os na ddaw cytundeb ynghylch ariannu'r prosiect.

"Dydw i ddim yn gallu gwneud sylw ar y dyfodol pan nad ydyn ni'n gwybod os fydd yr amodau hynny yn cael eu bodloni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynlluniau hyfforddi prentisiaid yr is-gwmni, Pŵer Niwclear Horizon, yn parhau, medd Hitachi

"Yn ôl pob tebyg, Wylfa Newydd yw'r safle gorau yn Ewrop i godi atomfa newydd... ond mae'n rhaid bod yn realistig na allai'r ymdrechion i symud y prosiect ymlaen barhau ar y raddfa bresennol.

"Y rheswm dros oedi yw bod hi'n ddisgwyliad enfawr i unrhyw gwmni sector preifat ysgwyddo holl faich ariannol [codi] atomfa newydd. Mae angen cyfranogiad llywodraethau hefyd ond mae termau gwneud hynny... yn gymhleth iawn.

"Pan rydych yn gwario £1m y diwrnod, allwch chi ddim cario ymlaen i wneud hynny am byth fel cwmni preifat cyfrifol."

Ychwanegodd Mr Flexman bod datrysiad yn bosib, a bod angen i drafodaethau barhau "oherwydd mae manteision posib y prosiect yn cyfiawnhau'r ymdrechion ychwanegol".

Dywedodd hefyd na fydd unrhyw newid i'r cynlluniau hyfforddi prentisiaid y mae is-gwmni Hitachi, Pŵer Niwclear Horizon eisoes wedi eu trefnu fel rhan o'r prosiect.

'Ymroddiad i'r prosiect'

Mae Mr Cairns yn dweud bod hi'n dal yn bosib "yn ddi-os" i wireddu cynllun Wylfa Newydd, a'i fod yn ffyddiog y bydd Hitachi yn sicrhau o leiaf un partner newydd i rannu'r gost.

Dywedodd ei fod yn hyderus ynghylch dyfodol y prosiect wedi i Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Greg Clarke ddweud bod Llywodraeth San Steffan yn fodlon ystyried bod yn gyfrifol am draean o'r buddsoddiad, gyda chyfraniadau cyfatebol gan Hitachi a Llywodraeth Japan.

Roedd hyn, meddai, yn brawf o ymroddiad Llywodraeth y DU i'r prosiect.

Disgrifiad o’r llun,

Mae trafodaethau am ddyfodol Wylfa Newydd yn parhau - yng Nghymru a thu hwnt

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi Cymru, wedi croesawu datganiad Mr Clarke ond yn dweud y bydd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y prosiect yn symud yn ei flaen, gan nad yw ynni yn fater sydd wedi ei ddatganoli.

Mae'n pwysleisio bod cynnal momentwm yr holl waith hyd yma yn "hanfodol bwysig".

Bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod brys o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn Llangefni ddydd Llun.

Roedd disgwyl yn wreiddiol y byddai Wylfa Newydd yn weithredol erbyn canol y 2020au, ac y byddai 9,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb Unite yng Nghymru, Peter Hughes ei fod yn ofni y gallai oedi o ychydig flynyddoedd "ymestyn i ddegawd".

"Mae'n siom anferthol," meddai. "Dim ond pan fydd y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri y byddan ni'n gwybod y bydd [pwerdy] yn cael ei godi."