Her i beidio gwario yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae tai nifer ohonon ni yn llawn pethau nad ydyn ni wir eu hangen. Bob hyn a hyn, rydyn ni'n penderfynu gwagio'r tŷ ac yn mynd â bageidiau draw i'r siop elusen... dim ond wedyn i brynu mwy o bethau yn eu lle a llenwi'r tŷ eto.

Nid yw Catrin Herbert o Gaerdydd yn eithriad. Ond eleni, mae hi wedi penderfynu gwneud rhywbeth am y peth, drwy gael gwared ar ei sothach diangen a pheidio â phrynu mwy...

Ffynhonnell y llun, Catrin Herbert
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Herbert yn gantores a chyn-gyflwynydd Cyw ar S4C sydd bellach yn gweithio i Radio Cymru

Mae gen i gyfaddefiad: Dwi'n prynu pethau yn gwbl ddiangen. Daeth hyn yn boenus o amlwg llynedd ar ôl dychwelyd i ystafell wely fy mhlentyndod wedi blwyddyn yn Barcelona. Ces i fy llethu'n llwyr gyda chymaint o stwff oedd gen i!

Ar ôl byw gyda dim ond cynnwys un cês, a hynny'n ddigon hapus, ges i'n syfrdanu wrth sefyll mewn 'stafell llawn stwff. Nid pethau defnyddiol, nid hyd yn oed pethau roeddwn i wir eu heisiau, jyst stwff.

Ro'n i'n gwybod bod angen i mi wneud newid mawr, a challio!

Y cam cyntaf oedd taclo'r gronfa o anhrefn oedd gen i yn y llofft, canlyniad blynyddoedd maith o hoardio. Aeth chwech sach o ddillad i'r siop elusen, ac mae'n gas gen i feddwl am faint o 'fargeinion sêl' o'r blynyddoedd a fu oedd yn llechu'n eu plith gyda'r tagiau'n dal arnyn nhw.

Gyda'r cam yna allan o'r ffordd, mae'r her fawr yn dechrau eleni. Dwi am geisio peidio â siopa. Dim dillad newydd, colur newydd, dim dyfeisiau electronig na llyfrau newydd am flwyddyn gyfan.

Disgrifiad,

Catrin Herbert yn siarad ar raglen Bore Cothi am ei her peidio siopa

Pam?

ARBED ARIAN: Well i ni gael y rheswm amlycaf allan o'r ffordd yn gyntaf; hoffwn i fedru cynilo ychydig. Ond, dwi'n mwynhau cymdeithasu, ac os yw hi'n ddewis rhwng rhoi'r gorau i sgrolio drwy ASOS yn ddifeddwl yn cwrso'r hit dopamin yna, neu fwynhau ffraethineb fy ffrindiau dros bryd o fwyd, mae hynny'n ddewis hawdd i mi. Ta-ta ASOS.

NEWID ARFERION GWARIO - AM BYTH GOBETHIO: Mae cymdeithas yn ein cyflyru ni i fod eisiau mwy a mwy drwy'r amser. Mi wn 'mod i'n bell (iawn) o fod yn minimalist, ond dwi 'di sylweddoli y galla' i fyw gyda llawer llai nag o'n i'n meddwl.

Roedd 'na amser pan fyddai pobl yn siopa pan roedden nhw angen rhywbeth. Erbyn hyn, mae'n harferion wedi newid, ry' ni'n cael ein perswadio i wario pan nad ydyn ni hyd yn oed wir eisiau unrhyw beth!

Mae cwmnïau'n ein bombardio'n ddyddiol gyda'u hysbysebion sgleiniog, a dyma fy ffordd i o ddweud 'Na!'. Ers gwneud y penderfyniad yma ar ddydd San Steffan (pan roedd gweddill fy nheulu'n dechrau siarad siop am yr holl fargeinion byddai ar y sêl), dwi 'di derbyn dwsinau o e-byst, a hysbysiadau dirifedi gan apiau siopa ar fy ffôn yn fy nghymell i wario. (Tip - 'dyw hi ddim yn fargen os na fyset ti wedi bod eisiau ei phrynu am ei phris gwreiddiol!)

Swydd y cwmnïau yma yw ceisio'n darbwyllo taw eu cynnyrch nhw yw'r allwedd i'n hapusrwydd ni - spoiler alert - mae hynny'n nonsens! 'Sbosib na ddylai gwario arian jyst er mwyn ei wario fod yn hobi?

Ffynhonnell y llun, Catrin Herbert
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond cês ac un bag cefn o stwff oedd gan Catrin pan oedd hi'n byw yn Barcelona

Y BLANED: 'Dw'i yn poeni am yr amlgylchfyd, ond eto dwi'n ei chael hi'n anodd i gael fy nghymell gan hynny wrth wneud fy newisiadau bychain o ddydd i ddydd. Ry'n ni'n niweidio'r blaned mewn cant a mil o wahanol ffyrdd yn ddyddiol, ac yn aml yn cael negeseuon cymysg am sut orau i wneud gwahaniaeth.

Wel, dwi ddim yn arbenigwraig, ond dwi yn gwybod fod ein hawydd anniwall i gael ffasiwn cyflym, rhad yn cael effaith echrydus ar yr amgylchedd.

Ar ben hynny mae 'na gymdeithasau cyfan sy'n dioddef yn ofnadwy wrth iddynt geisio cynnal ein harferion gwael ni. 'Sai'n fegan, a dwi'n gyrru'n ddyddiol, ond dwi'n gwybod y bydd hyn yn gwneud rhyw wahaniaeth, ac mae'n rhaid dechrau'n rhywle.

Ffynhonnell y llun, Catrin Herbert
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Catrin lawer iawn o golur ar ei hanner sydd angen eu defnyddio yn lle prynu mwy. Ddylai hyn fod yn ddigon ar gyfer 2019, siawns...?!

Her dim siopa 2019

Os ydy hon yn ddilema gyfarwydd, neu'r rhesymau wedi gwneud i chi feddwl, pam na wnewch chi herio'ch hunain i fod yn siopwyr mwy cydwybodol yn 2019? Dyma'r canllawiau dwi wedi eu gosod i mi fy hun - mae croeso i chi geisio'u dilyn hefyd!:

1) AMNEWID Os oes rhywbeth yn torri neu'n rhedeg allan, os ydych chi wir angen, gewch chi brynu un yn ei le. Er enghraifft, os ydych chi'n torri tant gitâr, neu'n gwneud twll yn eich unig bâr o 'sgidiau rhedeg, neu'n rhedeg allan o sebon (yn enwedig os 'y chi'n rhedeg allan o sebon!) ewch amdani. Nid pwrpas hyn yw i gosbi'n hunain!

2) AIL FARN Meddwl eich bod chi wir angen rhywbeth? Siaradwch gyda rhywun cyn prynu. Bydd clywed eich hunan yn ei gyfiawnhau ac yn atodi rheswm ato yn gwneud i chi feddwl yn glir o flaen llaw.

3) DAD-HOFFWCH, dilewch a thad-danysgrifwch. Iawn, dyw'r un yma ddim yn rheol, ond mae'n tip da. 'Dwi wedi dileu pob ap siopa ac wedi dad-danysgrifo o bob cylchlythyr a rhestr bostio gan bob Zara a New Balance a Groupon a'r degau o rai eraill ro'n i wedi eu cronni ar hyd y blynyddoedd. Dwi wedi eu 'dad-hoffi' ar Facebook yn y gobaith y byddai'n gweld ychydig llai o'u hysbysebion di-ri.

4) OS AM BRYNU… Ceisiwch fenthyg neu brynu'n ail-law yn gyntaf. Mae siŵr fod gan rhywun caredig ar Facebook ddril/camera fideo/y llyfr yna!

5) CADWCH GOFNOD Ystyriwch ysgrifennu'ch pryniadau i lawr. Mae gen i lyfr bach i'w cofnodi fel y galla'i fesur fy llwyddiant (neu fethiant!) ar ddiwedd y flwyddyn.

6) PEIDIWCH Â THEIMLO'N EUOG Does neb yn berffaith, ac ry' ni'n trio gwneud peth da wrth ymgymryd â'r her, felly os na lwyddwn ni'n gyfan gwbl, does dim rhaid i ni deimlo'n euog. Dwi'n trio newid, ac mae hynny'n beth pwysig.

Ond wedi gweud hynny… os welwch chi fi'n gwasgu 'ngwyneb i yn erbyn ffenest Topshop yn ystod sêl yr haf, mae croeso mawr i chi fy llusgo i ffwrdd!

Efallai o ddiddordeb...

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw