Clermont Auvergne 49-7 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Pato FernandezFfynhonnell y llun, David Davies/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Pato Fernandez yn sgorio ei gais gyntaf yng nghwpan Ewrop

Colli oedd hanes y Dreigiau yn eu gêm grwp olaf yng Nghwpan Her Ewrop gartref yn Rodney Parade yn erbyn Clermont Auvergne o 49-7 nos Wener.

Roedd y tîm o Ffrainc y mhell ar y blaen drwy gydol y gêm gyda'r pwyntiau bonws yn ddiogel cyn hanner amser gyda'r sgôr yn 35-0 i'r ymwelwyr.

Cafwyd taclo ffyrnig gan y Ffrancwyr drwyddi draw gan adael i'r Dreigiau sgorio eu hunig gais ym munudau olaf y gêm.

Pato Fernandez o Clermont oedd un o sêr fwya'r gêm gan sgorio ei gais cyntaf yng Nghwpan Her Ewrop.