Caerdydd yn arwyddo'r ymosodwr Emiliano Sala o Nantes

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr Emiliano Sala am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond credir ei fod tua £15m.

Os yw'r ffigwr yna'n gywir, dyma'r ffi uchaf erioed i'w dalu gan y clwb. Fe wnaeth yr Adar Gleision dalu £11m am Gary Medel o Sevilla yn 2013.

Mae Sala, sy'n 28 oed, wedi sgorio 13 gôl i Nantes yn Ligue 1 Ffrainc y tymor hwn.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Gaerdydd golli o 3-0 yn erbyn Newcastle yn St James' Park ddydd Sadwrn.

Dyma'r ail ymosodwr i Neil Warnock ychwanegu i'r garfan ym mis Ionawr, ar ôl i Oumar Niasse ymuno o Everton ddydd Gwener.