Apêl am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Ynys Môn ddydd Iau.
Bu farw Rebecca Oxlade, 22 oed o Bromley, mewn gwrthdrawiad ar yr A55.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 12:30 yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro.
Y gred yw bod Ms Oxlade wedi gadael ei char, cyn cael ei tharo gan Vauxhall Corsa.
Cafodd gyrrwr y Corsa ei gludo i Ysbyty Gwynedd gyda'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel mân anafiadau.
Cafodd Ms Oxlade ei disgrifio gan ei theulu fel "person hyfryd, caredig a chariadus".
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019