Datrys dirgelwch draig Bethesda

  • Cyhoeddwyd
Y ddraig ysblennydd sydd wedi ymddangos ar ochr y ffordd ym Methesda
Disgrifiad o’r llun,

Y ddraig ysblennydd sydd wedi ymddangos ar ochr y ffordd ym Methesda

Banksy ym Mhort Talbot a llun o'r diweddar Windsor Davies wedi ymddangos ar graig uwchben Pen-y-bont ar Ogwr, mae celf cyhoeddus yn fyw ac iach. A dyma un arall at y casgliad. Yn ystod y dyddiau diwethaf ar ochr ffordd yr A5 ym Methesda mae draig fawr, dderw wedi ymddangos ac mae wedi denu cryn dipyn o sylw.

Dros gyfnod o chwe niwrnod mae boncyff coeden oedd wedi syrthio wedi ei drawsnewid yn ddraig ysblennydd. Aeth Cymru Fyw i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol amdani.

Pam draig?

Simon O'Rourke yw ei enw ac yn wahanol iawn i Banksy mae'n gwbl agored am bwy ydy o a beth mae'n ei wneud. Mae'n byw yn Yr Orsedd, ger Wrecsam gyda'i wraig Liz, ac mae cerfio coed o bob math yn rhan o'i waith bob dydd.

Ond pam draig fawr ym Methesda o bob man ?

Meddai Simon: "Yn yr achos yma, y cwsmer benderfynodd mai draig oedd o eisiau er mwyn agor y lle i'r cyhoedd fel arboretum. Tan i mi gyrraedd a gweld y coed oedd ar gael doedd gen i ddim syniad sut y byswn i'n mynd ati - bu'n rhaid i mi feddwl ar fy nhraed yn sydyn!"

Disgrifiad o’r llun,

Simon yn dechrau ar y gwaith o gerfio'r ddraig

Mewn dim o amser mae'r ddraig wedi cael sylw mawr ar wefannau cymdeithasol ac mae Simon yn ymwybodol bod ei greadigaeth newydd wedi rhoi hwb i nifer o drigolion lleol.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y bysa'n denu cymaint o sylw mewn cyn lleied o amser a dweud y gwir. Ond mae'r syniad bod darn o 'ngwaith wedi creu'r fath gynnwrf ac wedi rhoi hwb i bentref bach yng Nghymru yn wych. Mae cymdeithas yn beth pwysig ac mae celf heb os yn gallu dod â phobl at ei gilydd," meddai.

Hefyd o ddiddordeb: