Cyn-lywydd Merched y Wawr, Mair Penri, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mair Penri

Yn 78 oed bu farw cyn-lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, Mair Penri.

Cafodd ei magu yn Sir Drefaldwyn a bu'n byw yn Y Parc ger Y Bala am flynyddoedd wedyn.

Enillodd Fedal Syr T H Parry-Williams, dolen allanol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008 am ei chyfraniad oes i fyd yr eisteddfodau, byd y ddrama, bywyd cymdeithasol a chrefyddol ei hardal a thu hwnt.

Wedi ei geni ym Mhenygarnedd, rhwng Pen-y-bont-fawr a Llanfyllin, astudiodd yn y Coleg Normal ym Mangor cyn cychwyn gyrfa fel athrawes.

Hi oedd Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr rhwng 1990-1992.

Fe enillodd wobr y Cyflwyniad Digri dair gwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2005 a 2007.

Dywedodd Mair ei bod hi'n "lodes dawel" yn Ysgol Llanfyllin ond ei bod wedi cael anogaeth athrawon i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Dywedodd hefyd bod crefydd yn "bwysig iawn" iddi, a bu'n pregethu am flynyddoedd lawer.

"Mae pobl yn meddwl amdana i fel rhywun digri', ond mae 'na ddwyster mawr, llawer mwy na ma' pobl yn ei sylweddoli," meddai wrth BBC Cymru yn 2008.

Wedi i'r newyddion dorri am farwolaeth Mair, cafwyd teyrngedau iddi ar wefannau cymdeithasol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Byd Mary Jones World

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Byd Mary Jones World
Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Ffred

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Ffred

Hefyd gan y BBC