Ymateb i stori am broblem beichiogi wedi synnu mam
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gollodd bump o fabanod yn y groth wedi sôn am yr ymateb dderbyniodd yn dilyn eitem ar BBC Cymru Fyw am ei hanes yn cwrdd â'r milfeddyg wnaeth ei hysbrydoli i gael triniaeth addas er mwyn beichiogi'n llwyddiannus.
Ers siarad â Cymru Fyw ddechrau mis Rhagfyr, mae Lowri Jones o Langwm, Sir Conwy, wedi derbyn nifer o negeseuon gan ferched yn yr un sefyllfa, ac mae ei stori wedi dal sylw'r papurau cenedlaethol.
"Mae 'na gymaint o ferched wedi ymateb wedi i mi siarad am y peth ar y cyfryngau... mae merched dwi ddim hyd yn oed yn eu hadnabod wedi cysylltu i ddiolch i mi am rannu'r stori."
Fe ymddangosodd stori Lowri hefyd ar dudalennau papur newydd The Sun dros y Nadolig, ac mae cylchgronau cenedlaethol eraill yn gobeithio rhannu ei phrofiadau.
Yn dilyn genedigaeth ei mab cyntaf yn 2011, fe aeth Lowri drwy sawl beichiogrwydd aflwyddiannus, ond ym mis Hydref 2014 gwelodd eitem ar raglen Ffermio ar S4C lle'r oedd y milfeddyg Cen Williams yn egluro'r cysylltiad rhwng lefelau thyroid ïodin anghyson a phroblemau beichiogrwydd mewn gwartheg.
Fe wnaeth hynny ei hannog i gael triniaeth wnaeth ei galluogi i roi genedigaeth i'w hail fab, Gwil, yn llwyddiannus.
Dywedodd Lowri ei bod "mor ddiolchgar" am y cyfle i wneud y cyfweliad ar Cymru Fyw, a chael cyfarfod Cen yn y filfeddygfa ger Pwllheli.
"Roedd Cen wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi, ac mae 'na gymaint o ferched wedi ymateb wedi i mi siarad am y peth ar y cyfryngau.
"Mae merched dwi ddim hyd yn oed yn eu hadnabod wedi cysylltu i ddiolch i mi am rannu'r stori, a dwi mor falch fod sôn am beth 'da ni wedi mynd drwyddo wedi rhoi gobaith i ferched eraill yn yr un sefyllfa.
"Mae o'n un o'r pynciau 'na 'di pobl ddim wastad wedi bod yn barod nac yn gyfforddus i'w drafod, ond mae hyn wedi dangos fod gwneud hynny yn gallu helpu pobl eraill, a bod dyfalbarhau, a chwilio am atebion tu allan i'r bocs yn gallu gweithio."
Ychwanegodd Lowri: "Mae'r stori hyd yn oed wedi ffeindio ei ffordd i bapur newydd The Sun, ac mae 'na gylchgronau eraill wedi cysylltu efo fi yn gobeithio rhannu fy stori i.
"Dwi'n gobeithio y bydd hynny hefyd yn codi fwy o ymwybyddiaeth am lefelau thyroid anghyson a phroblemau beichiogi ac yn annog merched i fynnu eu bod yn cael triniaethau meddygol er mwyn dechrau teulu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018