Chwilio am awyren yn cludo Sala wedi dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio am awyren goll oedd yn cludo chwaraewr Clwb Pêl-Droed Caerdydd, Emiliano Sala, wedi dod i ben.
Mewn neges ar Twitter am 15:15 ddydd Iau, dywedodd Heddlu Guernsey eu bod wedi "dod i benderfyniad anodd a rhoi diwedd ar y chwilio".
Roedd ymosodwr newydd Caerdydd, Sala, a'r peilot, David Ibbotson ar yr awyren pan ddiflannodd ar ei thaith o Nantes i Gaerdydd tua 20:30 nos Lun.
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae chwaer Sala wedi pledio gyda'r timau i barhau i chwilio, wrth siarad gyda'r wasg.
'I ni, maen nhw dal yn fyw'
Er bod timau wedi bod yn chwilio dros 1,700 milltir sgwâr o Fôr Udd (English Channel), nid oes yna'r un golwg o'r awyren goll na'i theithwyr.
Dywedodd harbwrfeistr Guernsey, David Barker, fod unrhyw obaith o ddod o hyd i Mr Sala a Mr Ibbotson bellach yn "brin iawn".
Er hynny, plediodd chwaer y pêl-droediwr, Romina Sala, i barhau gyda'r chwilio.
"Plîs, plîs, plîs peidiwch â rhoi'r gorau i'r chwilio," meddai wrth y wasg yng Nghaerdydd brynhawn Iau.
"Rydyn ni'n deall yr ymdrech ond plîs peidiwch rhoi'r gorau. I ni, maen nhw dal yn fyw."
'Dyn ifanc clên a diymhongar'
Ychwanegodd: "Dwi'n gwybod yn fy nghalon bod Emiliano dal yn fyw, felly plîs peidiwch â rhoi'r gorau i'r chwilio."
Dywedodd iddi siarad gyda'i brawd am y tro olaf ddydd Llun cyn ffarwelio â chwaraewyr Nantes.
"Roedd o'n gyffrous iawn am ddod i Gaerdydd ac roedden ni'n siarad drwy'r dydd," meddai.
Dywedodd perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan fod y newyddion "wedi rhoi ysgytwad enfawr i bawb" yn y clwb.
"Roedden ni'n edrych ymlaen at roi'r cam nesaf i Emiliano yn ei fywyd a'i yrfa," meddai.
"Mae'r rheiny oedd wedi cwrdd ag Emiliano wedi disgrifio dyn ifanc clên a diymhongar oedd yn awyddus i greu argraff yn Uwchgynghrair Lloegr.
"Mae ymateb y gymuned bêl-droed wedi bod yn hyfryd ac rydyn ni eisiau diolch o waelod calon i'r rheiny sydd wedi gyrru negeseuon o gefnogaeth.
"Ry'n ni hefyd yn diolch i bawb oedd yn rhan o'r ymgyrch chwilio, ac yn parhau i weddïo dros Emiliano, David Ibbotson a'u teuluoedd."
Yn ôl adroddiadau yn ei famwlad yn Yr Ariannin, roedd y pêl-droediwr 28 oed wedi danfon neges WhatsApp at ei dad yn dweud ei fod yn "wirioneddol ofn" ac ar "awyren sy'n edrych fel ei bod am dorri'n ddarnau".
Yn y neges mae'r ymosodwr yn dweud ei fod ar ei ffordd i Gaerdydd o Nantes i ymarfer gyda'i gyd-chwaraewyr newydd, a'i fod "i fyny yma yn yr awyren, sy'n edrych fel ei bod am dorri'n ddarnau".
Dywedodd wedyn: "Os nad ydych chi'n cael unrhyw newyddion gen i mewn awr a hanner, 'sa i'n gwybod os ydyn nhw am ddanfon rhywun i chwilio amdana'i oherwydd wnawn nhw ddim fy ffeindio, ond nawr y'ch chi'n gwybod… Dad, rwy'n wirioneddol ofn!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019