Canolfan Tenis Wrecsam 'heb adnabod' honiadau cam-drin
- Cyhoeddwyd
Ni wnaeth clybiau ac asiantaethau tenis adnabod pryderon ynglŷn â diogelu plant cyn i hyfforddwr yno gael ei garcharu am weithred rhyw â phlentyn, yn ôl adroddiad.
Cafodd cyn-hyfforddwr yng Nghanolfan Tenis Wrecsam, Daniel Sanders, ei ddedfrydu i chwe blynedd dan glo yn 2017 ar ôl cyfaddef wyth cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn.
Dywedodd adroddiad annibynnol gan y Lawn Tennis Association (LTA) bod y clwb "ddim wedi delio'n briodol" â chwynion gan rieni.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod "Tenis Cymru wedi methu pryderon amlwg ynglŷn â diogelwch a gafodd eu codi mewn adroddiad WTC yn 2012" a bod LTA wedi "methu wrth ymchwilio i risgiau amlwg".
Mae'r LTA wedi ymddiheuro am y methiannau ac wedi cael tîm o arbenigwyr ar ddiogelu plant i fynd i'r afael â'r pryderon.
'Colli cyfleoedd'
Clywodd llys yn 2017 bod Sanders wedi "cymryd mantais" o ferch oedd yn arfer cael ei hyfforddi yn y clwb.
Dywedodd yr adroddiad bod y clwb wedi methu â chydnabod cwynion am gamdriniaeth yn erbyn Sanders cyn iddo gael ei arestio.
Fe wnaeth Scott Lloyd o'r LTA ymddiheuro am fethiannau Canolfan Tenis Wrecsam, gan gyfaddef bod y clwb "yn amlwg ddim wedi gweithredu'n ddigonol".
Dywedodd John Aigne, ymddiriedolwr yn y ganolfan: "Ry'n ni'n cydnabod nad oedd ein hymchwiliadau mewnol yn ddigonol, ac na wnaeth y ganolfan ddelio â chwynion yn briodol."
Ychwanegodd bod y clwb yn ymddiheuro am "golli cyfleoedd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017