Ymgyrch dynes i ailgylchu pacedi creision yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Mair Davies bod "ailgylchu pacedi creision ddim yn drafferth"

Mae dynes o Sir Ddinbych sydd wedi bod yn ymgyrchu i leihau'r defnydd o blastig wedi troi ei sylw at bacedi creision.

Gobaith Mair Davies ydy newid safbwyntiau trigolion Llangollen tuag at y defnydd o'r pacedi.

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd cwmni Walkers eu bod nhw wedi dod i gytundeb â chwmni ailgylchu TerraCycle.

Daeth hyn yn sgil pwysau gan y cyhoedd ac yn dilyn ymgyrch dyn o Bontypridd oedd yn tynnu sylw at ddiffyg ymroddiad y cwmni tuag at ailgylchu.

Sylw yn y wasg

Fe anfonodd miloedd o bobl eu pacedi creision Walkers drwy'r post i'r cwmni mewn protest am nad oedd modd eu hailgylchu.

Dyma sbardunodd Ms Davies - sy'n aelod o'r grŵp Cyfeillion y Ddaear lleol - i weithredu yn Llangollen.

"Mae 'na lot o sylw wedi bod yn y wasg am hyn," meddai Ms Davies, sydd eisoes wedi helpu i leihau'r defnydd o boteli a gwellt plastig yn y dref.

"Nes i feddwl, 'wel os oes gan bobl yr amser a'r egni i anfon y pacedi at Walkers, all pobl ddod â nhw atom ni unwaith ein bod ni wedi gosod ambell i fan drop-off'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair Davies yn poeni bod gormod o bacedi creision yn gwneud eu ffordd i Afon Dyfrdwy

Mae Ms Davies wedi gosod wyth safle yn y dref er mwyn i bobl allu ailgylchu eu pacedi creision.

Mae'r ymateb wedi bod yn galonogol hyd yn hyn, ond mae hi'n pryderu am effaith hirdymor y llygru.

"Y broblem gyda phacedi creision yn enwedig ydy eu bod nhw'n eitha' ysgafn ac yn cael eu symud o gwmpas gan y gwynt a'r glaw - yn y pen draw maen nhw'n mynd i'r afon ac wedyn i'r môr," meddai.

"Dwi'n mynd i wneud fy mhwt bach i er mwyn helpu i stopio hynny rhag digwydd."