Gwobrwyo cwmni theatr Hijinx ac arwr tawel Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae dau gwmni theatr o Gymru yn dathlu ar ôl cipio gwobrau yn seremoni flynyddol cylchgrawn 'The Stage'.
Cwmni Hijinx o Gaerdydd oedd enillydd y Wobr Ryngwladol am brosiectau arloesol sy'n rhoi lle canolog i actorion gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth.
Ac fe gafodd Pat Nelder wobr Arwr Tawel wedi dros 40 o flynyddoedd o wasanaeth i Theatr Clwyd.
Cafodd y seremoni ei chynnal yn Theatr Bridge, Llundain ddydd Gwener.
Effaith 'anhygoel' yn Lesotho
Cafodd Hijinx glod am ddanfon pedwar actor â Syndrom Down i Lesotho yn Affrica er mwyn creu cynhyrchiad theatr gynhwysol gyda myfyrwyr drama lleol.
Dywed y cwmni, sy'n defnyddio actorion gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth yn eu holl gynyrchiadau, bod y prosiect wedi cael effaith "anhygoel gan fod nifer helaeth o Lesotho yn canfod anabledd fel melltith, ac mae babanod ag anableddau yn aml yn cael eu gadael mewn cartrefi amddifad".
Cafodd y perfformiad ei weld gan dros 2,000 o bobl.
Roedd Hijinx hefyd wedi teithio i 67 o ddinasoedd mewn 16 o wledydd gyda'r sioe Meet Fred, gan rannu eu dulliau gweithredu mewn gweithdai a seminarau gyda grwpiau anabledd dysgu yn Tseina a De Corea.
Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno'r model hwnnw ar draws nifer o wahanol wledydd.
Dywedodd prif swyddog gweithredol Hijinx, Clare Williams bod cydnabyddiaeth i'w gwaith "yn gam pwysig yn ein cenhadaeth i ddangos y gall bobl sydd ag anableddau deallusol neu sy'n hunan-adnabod fel niwroamrywiol ddod yn berfformwyr proffesiynol a chael eu castio mewn prosiectau theatr, teledu a ffilm ar draws y byd".
Pat Nelder - swyddog cyswllt datblygu cyfalaf Theatr Clwyd - yw'r aelod staff sydd wedi gweithio yno hiraf.
Dywedodd cyfarwyddwr artistig y theatr, Tamara Harvey, bod y gydnabyddiaeth i'w gyfraniad drwy ei anrhydeddu â'r wobr Arwr Tawel yn achlysur "arbennig iawn".
"Am dros 40 o flynyddoedd, mae wedi ymroi ei hun i Theatr Clwyd a bydde ein theatr yn le llawer, llawer llai hebddo."
Roedd Theatr Clwyd hefyd ar restr fer categori Theatr Rhanbarthol y Flwyddyn - gwobr a aeth i'r Nottingham Playhouse.
Cafodd gwobrau The Stage eu sefydlu i gydnabod llwyddiannau byd y theatr ar draws Prydain, yn hytrach na chanolbwyntio ar Lundain a'r West End.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018