Disgwyl miloedd i fynychu gêm gwpan rhwng dau hen elyn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dau hen elyn yn cwrdd ar y cae pêl-droed ddydd Sadwrn gyda disgwyl dros 2,300 o gefnogwyr fynychu'r gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Dydy Bangor a Chaernarfon heb gwrdd â'i gilydd mewn gêm gystadleuol ers blynyddoedd gan fod y ddau glwb wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar o ran eu safle ym mhyramid pêl-droed Cymru.
Er i Fangor orffen yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru y llynedd, roedd diffyg trwydded yn golygu eu bod yn disgyn i'r ail haen ar gyfer y tymor hwn.
Ar y llaw arall, fe wnaeth Caernarfon ennill dyrchafiad fel pencampwyr ac maen nhw wedi sicrhau eu lle yn chwech uchaf y gynghrair yn dilyn cyfres o ganlyniadau da.
Y Cofis yn gwerthu pob tocyn
Yn ôl capten Caernarfon, Nathan Craig mae pawb yn y dref yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm.
Mae Caernarfon wedi gwerthu pob un o'r 1,300 tocyn gafodd eu rhoi iddyn nhw ac yn ôl Craig bydden nhw wedi gallu gwerthu mwy.
"Mae hi wastad wedi bod yn gêm enfawr," meddai.
"Ond mae hon hyd yn oed yn fwy ar ôl i ni gael dyrchafiad a'u bod nhw wedi disgyn i Gynghrair Undebol Huws Gray oherwydd materion oddi ar y cae.
"Yn y gorffennol nhw sydd wedi bod yn ffefrynnau, ond oherwydd ein safle ni yn y gynghrair efallai mai ni ydy'r ffefrynnau y tro yma."
Mae gan Fangor reolwr newydd ers mis Tachwedd, ar ôl i Gary Taylor-Fletcher ddychwelyd i'r clwb wedi iddo adael ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Dywedodd cyn y gêm: "Rydym yn gobeithio creu sioc. Mae Caernarfon yn hedfan yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.
"Mae hi'n mynd i fod yn gêm dda - dau glwb lleol sy'n hen elynion yn erbyn ei gilydd - fe allai unrhyw beth ddigwydd yn y gwpan."
Oherwydd hanes diweddar Bangor oddi ar y cae, mae ambell i gefnogwr wedi datgan na fydden nhw'n fodlon mynychu gemau.
Ond mae eraill yn edrych ymlaen at yr achlysur nos Sadwrn.
Dywedodd John Lee o Rostrehwfa, sydd wedi bod yn cefnogi Bangor ers blynyddoedd, ei fod yn credu y byddai'r tîm cartref yn ennill o un gôl.
"Fe fydd Caernarfon yn rhy confident a dwi'n gweld Bangor yn curo," meddai.
Rhybudd heddlu
Gyda chymaint o dorf ar gyfer y gêm mae disgwyl presenoldeb yr heddlu fod yn amlwg o amgylch Stadiwm Nantporth ym Mangor.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cynnal sawl cyfarfod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'r clybiau, ac "mae 'na gynlluniau mewn lle", meddai'r llu.
Ychwanegodd llefarydd y bydd "y cefnogwyr, yn wahanol i'r drefn arferol, yn cael eu gwahanu.
"Ni fydd alcohol ar werth, ac fe fydd 'na blismyn ychwanegol ar ddyletswydd," meddai.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Nantporth am 19:30, gyda'r giatiau'n agor am 18:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018