Heddwas wedi'i anafu cyn gêm Bangor a Chaernarfon
- Cyhoeddwyd
Cafodd heddwas ei gymryd i'r ysbyty wedi iddo gael ei anafu tra'n delio gyda chefnogwyr cyn y gêm bêl-droed rhwng Bangor a Chaernarfon nos Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi gorfod delio â "digwyddiad" rhwng cefnogwyr y ddau dîm y tu allan i Stadiwm Nantporth ychydig cyn 19:00.
Roedd cic gyntaf y gêm ym Mangor am 19:30, ac roedd y llu wedi dweud eisoes y byddai "plismyn ychwanegol ar ddyletswydd" i fynd i'r afael ag unrhyw drafferthion rhwng cefnogwyr.
Caernarfon oedd yn fuddugol yn y gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, a hynny o 2-1.
'Nifer fechan'
Dywedodd yr Arolygydd Richie Green: "Tra roedd y ddau set o gefnogwyr yn cael eu gwahanu gan yr heddlu, fe wnaeth nifer fechan dorri trwy'r gadwyn o heddweision ac fe wnaeth hyn achosi stŵr.
"Fe wnaeth swyddogion ddelio â'r digwyddiad yn sydyn, ond cafodd heddwas ei anafu a'i gymryd i'r ysbyty.
"Mae'n siom bod nifer fechan yn benderfynol o achosi problemau, er gwaethaf presenoldeb yr heddlu."
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019