Y Cymro ifanc Rabbi Matondo yn ymuno â Schalke 04
- Cyhoeddwyd
![Rabbi Matondo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BB2D/production/_105371974_1a3f8421-c7a6-4624-91c0-77758d66a3d2.jpg)
Mae'r Cymro ifanc, Rabbi Matondo, wedi arwyddo i glwb Schalke 04 yn Yr Almaen am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond y gred yw ei fod tua £11m.
Roedd diddordeb enfawr yn Matondo ar ôl iddi ddod i'r amlwg nad oedd am arwyddo cytundeb newydd gyda'i gyn-glwb Manchester City.
Yn ôl adroddiadau, roedd Borussia Moenchengladbach, RB Leipzig a Hoffenheim yn awyddus iddo ymuno â nhw, ond penderfynodd yr asgellwr 18 oed arwyddo i Schalke yn ninas Gelsenkirchen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Chwaraeodd Matondo ei gêm gyntaf dros ei wlad yn y golled oddi cartref yn erbyn Albania ym mis Tachwedd.
Dechreuodd yr asgellwr ei yrfa gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd, lle mae ei frawd Japhet yn rhan o'r garfan dan-13.