Chwaraeon: Pump o Gymru i'w gwylio yn 2019
- Cyhoeddwyd
Unwaith eto eleni, mae Cymru Fyw wedi herio Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr, i ddewis pum person ifanc ym myd y campau i'w gwylio yn 2019. Gadewch i ni wybod be' 'dych chi'n ei feddwl...
Rabbi Matondo. 18 oed. Pêl-droed.
Dyma i chi chwaraewr hynod o gyffrous!
Yn ôl bob sôn, Matondo ydi'r chwaraewr cyflymaf ar lyfrau Manchester City. Ac mae hynny yn dipyn o beth gan gofio gan chwaraewyr fel Kyle Walker, Leroy Sane a Raheem Sterling yn chwarae i City.
Fe enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Albania fel eilydd ym mis Tachwedd. Ac er i dîm Ryan Giggs golli'r gêm, fe lwyddodd i greu tipyn o argraff ar yr asgell chwith.
Yr her iddo yn 2019 fydd cael ei hun mewn i garfan tîm cyntaf Manchester City. Haws dweud na gwneud, ond mae'r gallu yn sicr ganddo.
Chloe Tutton. 22 oed. Nofio.
Un arall fydd yn targedu lle yng Ngemau Olympaidd 2020.
Mi oedd hi yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 2016, ac mi oedd hi o fewn 0.06 eiliad at ennill medal efydd yn y dull broga. Ond fe lwyddodd i ennill dwy fedal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Yn gynharach yn ei gyrfa mi oedd yn rhaid iddi gymeryd seibiant o'r gamp ar ôl dioddef anaf i'w hysgwydd.
Ond mae hi wedi gwella'n llwyr o'r anaf yna bellach, a dwi'n siŵr y gwelwn ni hi yn ennill lot mwy o fedalau yn ystod ei gyrfa.
Y blynyddoedd diwethaf...
Aaron Wainwright. 20 oed. Rygbi.
Chwaraewr sydd wedi dod i'r amlwg dros y misoedd diwethaf.
Yn chwaraewr pêl-droed addawol, mi gafodd ei ryddhau gan glwb Caerdydd tair blynedd yn ôl cyn iddo benderfynu troi at rygbi.
Mae'r blaenasgellwr yn chwaraewr hollbwysig i'r Dreigiau yn barod, tra ei fod hefyd wedi creu argraff ar y llwyfan rhyngwladol.
Mi gafodd o gêm ragorol yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref ar ôl dod ymlaen fe eilydd cynnar.
Mae gan Warren Gatland opsiynau di-ri yn y rheng-ôl, ond os bydd Wainwright yn parhau i serennu yn 2019 yna mi fydd hi'n anodd i Gatland ei anwybyddu wrth ddewis ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd.
Anna Hursey. 12 oed. Tenis bwrdd.
Fe ddechreuodd chwarae tenis bwrdd yn bum mlwydd oed.
Yn 11 oed, fe gynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ar Yr Arfordir Aur yn Awstralia.
Fe lwyddodd i ennill ei gêm gyntaf yn y Gemau yn erbyn Halima Nambozo o Uganda, cyn colli yn erbyn Li Sian Alice Chang o Malaysia oedd 126 o safleoedd yn uwch na hi ar restr detholion y byd.
Mi fydd y profiad o gystadlu yn y Gemau o fudd mawr iddi, a dim ond gwella gwneith hi dros y blynyddoedd nesaf.
Megan Barker. 21 oed. Seiclo.
Mi fydd hi'n anodd iawn i Megan efelychu beth mae ei chwaer Elinor wedi ei gyflawni yn y byd seiclo.
Fe enillodd Elinor fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2016. Mae hi hefyd wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau'r Byd, Pencampwriaethau Ewrop a Gemau'r Gymanwlad.
Ond mae Megan wedi profi'n barod fod ganddi hi'r gallu i gystadlu am fedalau yn y dyfodol.
Mae hi yng ngharfan Prydain ar gyfer Cwpan Beicio Trac Y Byd, ac mae hi'n targedu lle yng Ngemau Olympaidd 2020.