26 awdur i elwa ar gefnogaeth Llenyddiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd 26 awdur yn elwa ar nawdd ariannol gan Lenyddiaeth Cymru eleni.
Dywedodd y corff bod "ymateb rhagorol" wedi bod i gynllun Ysgoloriaethau i Awduron a'r Cynllun Mentora.
Ymhlith yr awduron Cymraeg sy'n derbyn arian mae Llŷr Gwyn Lewis, Meirion MacIntyre Huws, Marged Tudur, Llio Maddocks a Dyfan Lewis.
Mae Branwen Haf Williams, Mari Ellis Dunning, Nicholas McGaughey a Rachel Carney hefyd wedi ennill lle ar y Cynllun Mentora, sy'n canolbwyntio ar feithrin awduron newydd.
14 awdur newydd
Mae'r ysgoloriaethau eleni yn mynd tuag at gefnogi awduron newydd ac awduron sy'n arbrofi gyda ffurfiau newydd.
Mae 22 o'r awduron yn derbyn ysgoloriaethau gwerth £3,000 yr un, gyda Jennifer Evans yn derbyn Ysgoloriaeth Awdur o dan 25 a Sara Hawys Roberts a Chris Tally Evans yn derbyn Ysgoloriaeth Cefnogi.
Dyma'r tro cyntaf i 20 o'r deiliaid dderbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru ac nid yw 14 wedi cyhoeddi cyfrolau o'r blaen.
Ymhlith yr awduron Saesneg sy'n derbyn cefnogaeth mae Lloyd Markham, Jay Griffiths, Rhiannon Hoosan a JL George.
Bydd clare e. potter hefyd yn derbyn nawdd i ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.
'Ymateb rhagorol'
Yn ôl Sioned Williams, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru, mae'r "gefnogaeth ariannol ac ymarferol" sy'n cael ei gynnig yn "bwysicach nag erioed i ddiwylliant Cymru".
"Mae'r ymateb rhagorol a gafwyd eleni yn arwydd clir o werthfawrogiad awduron ein cenedl o'u gwerth creiddiol i'w datblygiad fel llenorion," meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn bod yr awduron sy'n derbyn ysgoloriaethau eleni "yn cynrychioli cryfder ac amrywiaeth ysgrifennu creadigol yng Nghymru".
Ychwanegodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru bod yr ysgoloriaethau'n "adrodd stori galonogol ynglŷn â dawn lenyddol yn niwylliant cyfoes Cymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2016